Ydych chi'n un am syrpreis? Mae bywyd yn ddathliad ac mae gan bob dathliad arwyddocâd arbennig - boed yn briodas, ymddeoliad, pen-blwydd neu gydnabyddiaeth i aelod arbennig o'r gymuned.
Mewn cyfres newydd ar S4C o'r enw Dathlu! bydd Nia Parry yn goruchwylio'r holl drefniadau - o'r syniad gwreiddiol hyd y syrpreis fawr. Yn y cyfamser, bydd y cynllunydd Leah Hughes a'i phâr o fechgyn cryf yn mynd ati i greu dathliad fydd yn aros yn y cof.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales