S4C

Close
Flash is required to view this video

Digwyddiadau/12

Digwyddiadau/12

O Fôn i Benfro - o Sioe i Sioe

Yr wythnos hon mae cyfres Digwyddiadau/12 yn ymweld â dwy sioe amaethyddol boblogaidd, y naill yn y gogledd a'r llall yn y de.

Ar nos Fercher, 15 Awst, dewch gyda Morgan Jones a Daloni Metcalfe i Walchmai, Ynys Môn i fwynhau gweithgareddau Sioe Sir Fôn ac mae'n flwyddyn arbennig i'r sioe eleni wrth iddi ddathlu 125 mlynedd.

Yna ar y noson ganlynol, Iau, 16 Awst bydd Mari Grug a John Meredith yn ein tywys ar wibdaith o amgylch sioe amaethyddol boblogaidd arall ym mhen arall y wlad - Sioe Sir Benfro.

Mae Sioe Sir Fôn yn cael ei chynnal ar 14 a 15 Awst a Sioe Sir Benfro rhwng 14 a 16 Awst. Bydd y cyflwynwyr yn crwydro'r stondinau, yn sgwrsio â'r gwerthwyr, y cystadleuwyr a'r ymwelwyr ac yn cwrdd ag ambell gymeriad lleol.

Yn eu cwmni, cawn fwynhau'r awyrgylch a gweld yr amrywiaeth o weithgareddau yn y sioeau poblogaidd hyn sy'n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae'r cyflwynydd Daloni Metcalfe, sydd hefyd yn ffermio yn Nhudweiliog ym Mhen Llŷn, wrth ei bodd yn mynd i Sioe Sir Fôn bob blwyddyn.

"Mae hi'n sioe andros o dda â theimlad teuluol. Mae treulio diwrnod yno'n dda ond mae deuddydd yn well ac mae digon i ddiddanu pawb," meddai Daloni, sydd hefyd yn cyflwyno'r cyfresi Ffermio a Fferm Ffactor ar S4C.

"Mae dau o'n cystadleuwyr ni ar Fferm Ffactor eleni yn dod o Sir Fôn - Eilir a Dilwyn. Mae'r criw eleni yn hyfryd a gobeithio y gwela' i'r ddau o Fôn yn y sioe."

Mae Mari Grug, sydd o Fynachlog Ddu yn Sir Benfro, hefyd yn mwynhau crwydro sioeau amaethyddol.

"Rwy'n mwynhau gweithio bob blwyddyn ar y rhaglenni o Sioe Sir Benfro achos dyma fy sioe leol i. Mae lot fawr o sbort i'w gael ar y maes yn cwrdd â'r cymeriadau lliwgar sy'n dod at ei gilydd mewn sioeau amaethyddol fel hyn," meddai Mari, sy'n un o gyflwynwyr Tywydd S4C a hefyd yn cyflwyno'r rhaglen gylchgrawn Prynhawn Da.