Mae 2012 yn flwyddyn fawr i Lundain wrth i bawb edrych ymlaen at weld y Gemau Olympaidd yno yn yr haf. Mae S4C hefyd yn ymuno yn y cyffro gyda rhaglen am un o arwyr 'coll' athletau Cymru.
Mae'r rhaglen Jac y Ddafad Wyllt, ar nos Iau 1 Mawrth, yn bwrw golwg ar fywyd Jac Marmalêd Morgan o Benygroes. Daeth Jac yn un o brif arwyr Cymreig y Gemau Olympaidd pan wnaeth o gystadlu yn y ras 10,000 medr yn Helsinki, 1952.
Mae cyfarwyddwr y rhaglen Barry 'Archie' Jones, cynhyrchydd y gyfres gomedi Dim Byd ar S4C, yn esbonio sut y daeth i wybod am Jac.
"Mi ddois i o hyd i hen lyfr o'r enw 'Ar Drywydd y Ddafad Wyllt' mewn sêl bŵt car yn Llandegai. Mae'r llyfr gan yr awdur Alun Cob yn adrodd hanes camp Jac yng Ngemau Olympaidd 1952. Doeddwn i erioed wedi clywed amdano o'r blaen a dyna ble ddechreuodd y syniad am raglen," meddai Barry.
"Er na fyddai llawer yn gwybod am lwyddiannau Jac Marmalêd Morgan, mi ddes i ar draws rhai o'i edmygwyr sy'n ceisio codi arian ar gyfer cofeb yn ei bentref genedigol. Bydd eu hymdrechion yn cael sylw yn y rhaglen.
"A hithau'n flwyddyn yr Olympics yn Llundain, doedd dim cyfle gwell na hyn i wneud rhaglen am Jac ac atgoffa pawb am y Ddafad Wyllt!" ychwanega Barry.
Gyda chymorth clipiau archif, bydd teulu Jac yn adrodd ei stori. Bydd hefyd cyfraniad gan aelodau o gymuned Penygroes, a bydd hanesydd uchel ei barch ac athletwr a enillodd fedal aur yng Ngemau Olympaidd Tokyo 1964 hefyd yn rhannu atgofion.