Gyda dim ond dwy noson i fynd tan gystadleuaeth Cân i Gymru 2013 mi fydd Dim Byd yn codi blas arnom ni gan edrych yn ôl ar hanes y gystadleuaeth dros y degawdau, a hynny yn ffordd unigryw Dim Byd.
Rhai o uchafbwyntiau'r gystadleuaeth fydd yn cael y sylw, boed y rheiny yn glasuron Cymreig, neu'n ddigwyddiadau y byddai'n well gan rai iddynt fynd yn angof.
Dewch i hel atgofion am Cân i Gymru gyda Tony ac Aloma, Margaret Williams a Hogia'r Wyddfa, heb anghofio Bono ac Edge.