Bydd awr a hanner o hwyl yn canolbwyntio ar ddywediadau mwyaf poblogaidd y byd adloniant Cymraeg yn un o atyniadau S4C ar Ddydd Calan.
Bydd y rhaglen 40 Uchaf Siart y Dywediadau yn gyfle i ddathlu rhai o greadigaethau mwyaf cofiadwy'r byd adloniant dros y blynyddoedd yng nghwmni Aled Samuel.
Yn ogystal â dangos rhai o uchafbwyntiau rhaglenni fel C'mon Midffild, Ryan a Ronnie, Miri Mawr a Torri Gwynt, mae nifer fawr o sêr y byd adloniant megis Dewi Pws, Dai Jones, Caryl Parry Jones, Hywel Gwynfryn a Tudur Owen hefyd yn ymddangos yn y rhaglen.
Yn dilyn cyhoeddi'r 40 Uchaf Siart y Dywediadau, fe fydd cyfle i fwynhau'r rhaglen roddodd lwyfan i'r dywediad ddaeth i'r brig.
Meddai Aled Samuel, "Mae'r ymadroddion yma'n rhan o'n bywydau ni, a'n hanes diwylliannol ni. Maen nhw'n perthyn i gyfnodau arbennig yn ein datblygiad ni fel pobol ac yn ein hatgoffa o ddigwyddiadau yn ein bywydau. Maen nhw'n gweithio fel 'triggers' ac rydyn ni bron iawn yn medru cofio beth oedden ni'n gwneud y tro cyntaf y clywon ni nhw."
Meddai'r cynhyrchydd, Geraint Ellis o Cwmni Da: "Dydy rhywun ddim isio datgelu gormod, yn amlwg, o ran y deugain terfynol, ond mae cyfresi comedi yn un ffynhonnell amlwg iawn.
"Mi gewch chi ddyfalu beth a phwy sydd gennym ni mewn golwg. Teg dweud fod llawer o waith ymchwil wedi'i gyflawni ym mhentref Bryncoch, a bod ambell aelod o'r tîm wedi cael slepjan yn eu hwynebau ar hyd y daith!"
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales