Bydd Morgan Jones, Mari Grug ac Ifan Jones Evans yn dod ag uchafbwyntiau diwrnod difyr o gystadlu brwd yn ogystal â darlledu rhai o'r cystadlaethau'n fyw gyda'r nos.
Mae cannoedd o aelodau, rhwng 10 a 26 oed, o bob cwr o'r wlad yn tyrru i'r Eisteddfod bob blwyddyn i gymryd rhan mewn amryw o gystadlaethau.
Mae Ifan wedi bod yn aelod o Ffermwyr Ifanc Trisant ers oedd yn un ar ddeg mlwydd oed ac mae'n gwerthfawrogi'r cyfleoedd mae wedi'u cael gyda'r mudiad dros y blynyddoedd.
"Mae'r Ffermwyr Ifanc yn rhoi cymaint o gyfleodd i rywun berfformio fel y siarad cyhoeddus, cystadlaethau drama a'r eisteddfod. Mae e'n ffordd o fagu hyder perfformwyr ifanc, ac roedd yn sicr yn hwb mawr i mi fynd ymlaen i ddilyn gyrfa ar deledu wedyn," meddai Ifan.
Un uchafbwynt fydd Seremoni'r Cadeirio ond mae Ifan hefyd yn edrych ymlaen at yr hwyl sydd i'w gael mewn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc.
"Er bod safon Eisteddfod Ffermwyr Ifanc gystal, os nad gwell, na safon y cystadlu yn y Genedlaethol yn fy marn i, dyw pobl ddim yn cymryd y cystadlu mor o ddifrif. Rwy'n edrych ymlaen at gael digon o sbort ac mae 'na ddigon o gystadlaethau doniol iawn," esbonia Ifan.
Bydd digon o chwerthin felly wrth i'r deuawdau doniol, criw'r sgetshis a'r gân actol fynd trwy'u pethau yn ogystal â'r cystadlaethau llefaru a chanu gan gynnwys yr unawd allan o sioe gerdd a'r corau cymysg. Y cwestiwn yw, pa sir fydd yn dod i'r brig eleni?
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales