Mae eleni yn flwyddyn fawr i'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae'r ŵyl yn dathlu ei phen-blwydd yn 150 oed, a bydd S4C ynghanol y dathliadau a'r bwrlwm, yn dod â'r cystadlu, adloniant, digwyddiadau a holl storïau'r maes a thu hwnt, trwy gydol yr wythnos.
"Yn ogystal â rhaglenni'r dydd, fydd yn darlledu o 10 y bore tan ddiwedd y prynhawn gyda'r tîm cyflwyno prysur yn dod â holl hanesion y llwyfan a'r maes i ni, fe fydd y rhaglen fin nos yn cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol," esbonia Ynyr Williams, Uwch Gynhyrchydd rhaglenni Eisteddfod BBC Cymru ar S4C. "Yn ogystal â'n pecyn enillwyr arferol, a fydd yn cynnwys holl ganlyniadau'r dydd a hwyl a bwrlwm y maes, bydd Rhun ap Iorwerth yn arwain trafodaeth fywiog ar uchafbwyntiau'r dydd o'n stiwdio ar y maes."
Mae Rhun yn edrych ymlaen ar yr her newydd hon. "Mi fydd yn brofiad difyr cael trafod beth sydd wedi bod yn digwydd yn ystod y dydd efo fy ngwesteion," meddai Rhun, o Langristiolus ym Môn. "Mi fydd yn ychwanegiad gwerthfawr at yr hyn y byddwn ni yn ei gynnig o'r Eisteddfod eleni, a dwi'n gobeithio y bydd y gwylwyr yn mwynhau."
Bydd y rhaglenni hefyd yn edrych yn ôl dros 150 o Eisteddfodau.
"Mi fydd 'na ymdeimlad o nostalgia wrth inni edrych yn ôl ar rai o Eisteddfodau'r gorffennol," meddai Catrin Evans, un o gynhyrchwyr rhaglenni'r dydd. "Os oes gan unrhyw un stori ddiddorol yn ymwneud â'r Eisteddfod, neu hen ffilm neu hen lun o'r Ŵyl mi fuasem ni'n falch iawn petâen nhw'n cysylltu â ni ar eisteddfod@bbc.co.uk."
Mae gweddill tîm cyflwyno rhaglenni'r Eisteddfod hefyd yn edrych ymlaen at wythnos brysur. Y cyflwynwyr ar raglenni'r dydd fydd Huw Llywelyn Davies, Mari Grug, Morgan Jones, Mari Lovgreen a Siân Lloyd. Mae gwylwyr rhaglen newyddion BBC One Wales, Wales Today, yn hen gyfarwydd â Siân Lloyd, ond â hithau wedi dysgu Cymraeg, ac yn dod o Wrecsam yn wreiddiol, caiff ddigonedd o gyfleoedd i ymarfer ei Chymraeg o amgylch maes prysur y brifwyl ar dir Fferm Bers Isaf, Wrecsam.
Bydd holl ddigwyddiadau'r Pafiliwn hefyd i'w gweld yn ddi-dor trwy'r dydd ar y we, a chyhoeddir pob canlyniad ar y we hefyd.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales