gan CFfI Bodedern, Ynys Môn
gan CFfI Bro Ddyfi, Maldwyn
gan CFfI Llanwenog, Ceredigion
gan CFfI Abergwaun, Sir Benfro
gan CFfI Aberedw, Maesyfed
gan CFfI Llanfair-ym-Muallt, Brycheiniog
gan CFfI Brynbuga, Gwent
gan CFfI Llanymddyfri, Sir Gâr
gan CFfI Maendy, Morgannwg
ganCFfI Eglwyswrw, Sir Benfro
gan CFfI Dyffryn Cothi, Sir Gâr
gan CFfI Berriew, Maldwyn
Mae rhai o'r perfformiadau wedi eu golygu oherwydd bod y deunydd yn anaddas ac y gall beri pryder a sarhad i rai gwylwyr.
Ymunwch yn yr hwyl wrth i griw o ffermwyr ifainc disglair o bob cwr o Gymru eich diddanu mewn noson o adloniant o lwyfan Theatr y Grand, Abertawe.
Bydd y rhaglen Ffermwyr Ifanc o'r Grand yn cynnwys y gorau o'r penwythnos Gwledd o Adloniant CFfI (Clybiau Ffermwyr Ifanc). Dyma'r tro cyntaf i'r digwyddiad deuddydd gael ei gynnal gan gyfuno perfformiadau Saesneg a Chymraeg gan glybiau o Fôn i Fynwy.
Mae gofyn i bob clwb gyflwyno hanner awr o adloniant - boed yn ganu, dawnsio, actio neu gomedi - a bydd y gorau yn cael eu coroni'n bencampwyr gan y beirniaid Cefin Roberts a David Hedley Williams.
Yn arwain y cystadlu ar y llwyfan bydd y dyfarnwr rygbi Nigel Owens ac Ifan Jones Evans. Mi fydd y ddau hefyd yn arwain camerâu S4C gefn llwyfan gan ddod â'r holl gyffro o ganol y miri. Nigel Owens ydy Llywydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.
Yn ystod y rhaglen, cawn hefyd gwrdd â rhai o'r aelodau a dod i adnabod rhai o'r clybiau Cymraeg yn well wrth ddilyn eu paratoadau cyn y digwyddiad. Yn cystadlu yn y sesiynau Cymraeg bydd Clwb Bro Ddyfi yn cynrychioli Maldwyn; Llanwenog o Sir Geredigion; Dyffryn Cothi ar ran Sir Gaerfyrddin; Eglwyswrw o Sir Benfro; a Bodedern yn cynrychioli Ynys Môn.
Bydd y rhaglen yn rhoi blas ar rai o'r perfformiadau, yn rhoi cip ar y bwrlwm cefn llwyfan ac yn sgwrsio â'r gynulleidfa sydd wedi dod i gefnogi eu ffrindiau ar y llwyfan. Yn rhan o'r penwythnos mae dosbarthiadau meistri yn cael eu cynnal gan arbenigwyr ym meysydd coluro, gwisgoedd a sgriptio.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales