Bydd noson arbennig i ddathlu bywyd un o ddiddanwyr mwyaf lliwgar ac amryddawn Cymru, y diweddar Gari Williams, yn cael ei darlledu ar S4C. Bu farw'r diddanwr, actor, canwr a chyflwynydd poblogaidd 20 mlynedd yn ôl i'r mis hwn ac yntau ond yn 44 oed.
Cafodd Noson Cofio Gari ei chynnal yn Venue Cymru, Llandudno yn ddiweddar i ddathlu bywyd dyn a oedd wedi diddanu a dod â gwên i wyneb i filoedd o bobl ar deledu, radio a llwyfannau ledled Cymru am dros dair degawd.
Y comedïwr Tudur Owen a'r actor John Ogwen sy'n arwain noson hwyliog yng nghwmni teulu a ffrindiau Gari Williams, a llond y lle o sêr a lenwodd y llwyfan ag atgofion a pherfformiadau a roddodd ddarlun o hanes ei fywyd cyffrous ym myd adloniant ysgafn Cymru.
Ceir perfformiadau o rai o ganeuon mwyaf poblogaidd Gari gan artistiaid fel Hogia'r Wyddfa, Tara Bethan, Tomos Wyn ac Elgan Llŷr Thomas, a pherfformiad o un o'i sgetsus enwocaf gan aelodau Aelwyd Bro Cernyw.
Ymhlith y cyfranwyr eraill mae Glan Davies, Dilwyn Roberts, Sue Roderick, Mari Gwilym, Sulwyn Thomas, John Pierce Jones, Sioned Mair, Iestyn Garlick, Dafydd Iwan, Cefin Roberts, Gaynor Morgan Rees, Dewi Rhys, Lyn T Jones a Gari Wyn.
Meddai John Ogwen: "Roedd hi'n noson gofiadwy, lle'r oedd y tristwch o gofio am golli un mor ifanc yn gymysg hefo'r llawenydd o wybod cymaint oedd o wedi ei gyflawni. Roedd hi'n braf gweld cynifer o'i gyfoedion yno i dalu teyrnged i ddyn a oedd yn nabod ei bobl mor dda. Doedd dim ots pwy oedd y gynulleidfa, boed yn griw clwb rygbi neu'n bobl festri capel, roedd o'n gallu taro'r nodyn iawn bob amser a chael pobl i chwerthin."
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales