Neidio at y cynnwys

S4C

Gofod

Gofod

O na fyddai'n haf o hyd

Eli haul, sbectol haul a dillad haul - mae Elen Gwynne a Gethin Evans yn barod am yr haf, a'r gyfres newydd o Gofod.

Bydd Gofod yn gwneud y mwyaf o'r haf eleni gan ymweld â digwyddiadau ym mhob rhan o'r wlad, o'r Banger Racing yn Aberarth, sioeau amaethyddol lleol mewn gwahanol ardaloedd ac wrth gwrs y Sioe Frenhinol a'r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.



Y rhaglen gyntaf

Bydd cyflwynydd Ddoe am Ddeg Lisa Angharad yn westai, a bydd Gethin ac Elen yn cyflwyno rhestr o ddeg gŵyl wahanol yng Nghymru allwch chi ddim eu methu.

Bob wythnos bydd Gofod yn dod a rhaglen llawn dop o eitemau difyr a doniol, yn cynnwys cyfweliadau gyda gwesteion arbennig a chyfle i ddysgu am rhai o'ch diddordebau chi. Bydd Elen yn twrio drwy finau sbwriel enwogion Cymru, gan ddechrau gyda bin Emyr Gibson yn y rhaglen gyntaf, a bydd Gethin yn arwain cyflwyno taith dywys anarferol o amgylch eich trefi chi.

Mae rhai o hen ffefrynnau yn dychwelyd ar gyfer y gyfres newydd gan gynnwys Meical a'i dacsi ac Alison yn y salon, ill dau yn barod i holi a stilio eu cwsmeriaid enwog. A byddwn yn anrhydeddu rhagor o leoliadau enwog Cymru gyda Plac Glas Gofod.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales