S4C

Close
Flash is required to view this video

Gŵyl y Gwanwyn/12

Gŵyl y Gwanwyn/12

Y gorau o Ŵyl Wanwyn 2012 ar S4C

Fe fydd S4C yn darlledu rhaglen arbennig Nos Lun, 20 Mai yn cyflwyno rhai o uchafbwyntiau Gŵyl Wanwyn y Sioe Frenhinol a gynhelir ar faes y Sioe Fawr, Llanelwedd.

Yn y rhaglen Gŵyl y Gwanwyn/12 fe fydd Dai Jones a Shân Cothi yn cyflwyno'r holl fwrlwm o'n prif ddigwyddiad cenedlaethol ar gyfer cadw tyddyn, garddio a byw'n gynaliadwy.

Bydd yr Ŵyl yn cael ei chynnal ar benwythnos 19 a 20 Mai, ac mae'n llwyfan i bob math o arddangoswyr a chystadleuwyr.

O gadw gwenwyn, dofednod, defaid, geifr, cŵn a gwartheg, i ofalu am hebogau a hen beiriannau, mae'r cyfan ar y maes. Ymhlith yr uchafbwyntiau fe fydd y Brif Sioe Gŵn agored, Parêd y Gwartheg yn y prif gylch ac un o'r arddangosfeydd gorau o fridiau moch yn y Deyrnas Unedig.

Meddai Dai Jones, "Mae'r sioe hon yn dangos cymaint o gariad sydd gan bobl Cymru tuag at gefn gwlad. Mae'n hynod boblogaidd ac yn cynnig amrywiaeth ryfeddol o gynnyrch ac yn denu amrywiaeth ryfeddol o bobl y wlad a'r dre'. Mae'r awyrgylch yn wahanol iawn i'r Sioe Frenhinol ac mae'r pynciau trafod rownd y maes yn wahanol hefyd - ond cefn gwlad yw calon y cyfan."

Un o'r arddangosfeydd pwysica' yn yr Ŵyl eleni fydd yr 'Arddangosfa Byw'n Gynaliadwy Gorwelion Gwyrdd' ac mae Dai yn croesawu'r sylw a roddir i faterion amgylcheddol.

"Mae cymaint o arian y Llywodraeth a'r Undeb Ewropeaidd yn mynd tuag at gefnogi cynlluniau sy'n amddiffyn yr amgylchedd, mae materion gwyrdd yn bwysig i bob ffarmwr.

"Yn fy marn i, fel ffarmwr, mae angen cydbwysedd rhwng polisïau gwyrdd a chynaladwyedd ac anghenion y diwydiant amaeth o ddydd i ddydd. Mae'r Ŵyl yma'n gyfle da i bobl drafod y materion cymhleth a chael dweud eu dweud am waith a hamdden yng nghefn gwlad."