Neidio at y cynnwys

S4C

Hen Galan a'r Plygain: Digwyddiadau '11

Hen Galan a'r Plygain: Digwyddiadau '11

Ar ddechrau 2011, bydd S4C yn bwrw golwg ar ddau hen draddodiad Cymreig sy'n rhan o ddathliadau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, sef Canu Plygain a dathliadau'r Hen Galan. Mae'r ddau draddodiad yn parhau'n gryf iawn mewn rhai cymunedau yng Nghymru.

Yn y rhaglen Hen Galan a'r Plygain: Digwyddiadau 11 bydd Mari Grug a Morgan Jones yn ymuno â chymunedau ardal Llanfihangel yng Ngwynfa, yn Sir Drefaldwyn a Chwm Gwaun, gogledd Sir Benfro, i brofi'r digwyddiadau unigryw hyn a dysgu rhagor am eu hanes.

Bydd Morgan Jones yn Llanfihangel yng Ngwynfa ar gyfer y gwasanaeth Plygain yn eglwys y pentref gwledig. Cynhaliwyd y gwasanaeth nos Sul 9 Ionawr dan arweiniad y Parchedig David Francis. Dyma gyfle i brofi naws ysbrydol y canu Plygain, ac i ddysgu mwy am y traddodiad yng nghwmni'r Parchedig Francis a'r rhai sy'n cyfrannu at y gwasanaeth.

Hefyd yn y rhaglen, bydd Mari Grug yn ymweld â Chwm Gwaun yng ngogledd Sir Benfro. Ar 13 Ionawr bob blwyddyn, mae'r gymuned yn dod ynghyd i ddathlu'r Flwyddyn Newydd, ac mae'r traddodiad mor gryf ag erioed. Dyma ddyddiad y Flwyddyn Newydd yn ôl y calendr Iwlaidd, a ddisodlwyd ym 1752 gan y calendr Gregoraidd rydym ni'n ei ddilyn heddiw.

Yn ôl y traddodiad bydd pobl y pentref yn dod at ei gilydd i ddathlu, a'r plant yn canu alawon traddodiadol ac yn casglu Calennig. Byddan nhw hefyd yn cyfansoddi geiriau eu hunain i fynd â'r alawon. Eleni bu Mari Grug yn eu plith er mwyn profi'r awyrgylch ar ein rhan.

Cawn ddilyn plant ac ieuenctid yr ardal wrth iddynt grwydro o dŷ i dŷ yn canu ac yn casglu Calennig gan eu cymdogion. Bydd Mari hefyd yn ymuno yn hwyl yr oedolion fydd yn ymgynnull i ddathlu gyda'r nos yng ngwesty Gwelli Fawr ac yn nhafarn enwog Bessie, neu'r Dyffryn Arms sy'n cael ei redeg ers 40 o flynyddoedd gan yr enwog Bessie Davies. Mae'r dafarn yn ganolog i'r dathliadau ac wedi chwarae rhan bwysig wrth gadw traddodiad yr Hen Galan yn fyw.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales