Neidio at y cynnwys

S4C

Huw Edwards

Huw Edwards

Huw Edwards yn bwrw golwg gellweirus ar 2011

Fe fydd y darlledwr adnabyddus Huw Edwards yn dangos ei ochr ogleisiol, bryfoclyd mewn sioe ar S4C sy'n edrych yn ôl ar ddigwyddiadau mawr 2011.

Mae Huw Edwards yn fwya' adnabyddus fel darlledwr newyddion gyda'r BBC - ond ar y sioe Huw Edwards nos Wener, 30 Rhagfyr bydd yn bwrw golwg ysgafn a thafod mewn boch ar ddigwyddiadau eleni.

Yn briodol, mae'n cyflwyno'r sioe o neuadd gyngerdd Dora Stoutzker Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru yng Nghaerdydd - neuadd a agorodd yn gynharach eleni.

Fe fydd Huw Edwards yn cael cwmni tri gwestai arbennig ar y llwyfan - y DJ a'r cyflwynydd Huw Stephens, Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru Betsan Powys a'r cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Gareth Edwards.

Fe fydd hefyd yn cael cyfraniadau o'r gynulleidfa wrth gyflwyno gwledd o uchafbwyntiau - ac isafbwyntiau - ar sgrin yn neuadd gyngerdd Dora Stoutzker.

Mae'r darlledwr - sydd yn byw yn Llundain ond wedi'i fagu yn Llangennech ger Llanelli ac yn fab i'r diweddar hanesydd a darlledwr Hywel Teifi Edwards - yn edrych ymlaen at gyflwyno sioe yn Gymraeg ar S4C.

Meddai Huw Edwards, "Roedd 2011 yn flwyddyn fawr i mi, ac un o'r uchafbwyntiau oedd darlledu i 20 miliwn o bobl yn ystod y Briodas Frenhinol.

"Dwi'n edrych ymlaen at glywed am uchafbwyntiau pobl eraill, a sut flwyddyn oedd 2011 iddyn nhw. Roedd cymaint o ddigwyddiadau pwysig yn ystod y flwyddyn, yng Nghymru ac ar draws y byd, mae'n werth atgoffa'n hunain o'r pethau anferth ddigwyddodd ar draws y flwyddyn."

Yn ogystal â'r briodas fawr, fe fydd y sioe yn ystyried amrywiaeth o ddigwyddiadau mawr a bach eraill yn 2011. Byddan nhw'n edrych ar drychinebau economaidd yn Ewrop… ond hefyd yn cofio sut aeth cartre' bach'an o Abertawe yn fyd-enwog am fod y tŷ yn edrych fel Adolf Hitler! Byddan nhw'n edrych ar sut aeth ymgyrch Cymru oddi ar y cledrau yng Nghwpan Rygbi'r Byd, ond hefyd yn ail-fyw ymdrech Joe Purcell i gael ei geffyl ar drên yng ngorsaf rheilffordd Wrecsam!

"Er bod rhai cymylau du ar y gorwel pan r'ych chi'n sôn am yr economi neu'r Euro dwi'n gobeithio byddwn ni'n llwyddo i godi gwên ar wynebau pawb wrth edrych yn ôl ar 2011 ac ymlaen at 2012 hefyd," eglura Huw. "Mae pobl wedi hen arfer â fi'n darllen y newyddion bob nos, ond dwi'n edrych ymlaen at gael tipyn o hwyl gyda'r straeon mawr a bach wnaeth lenwi'r deuddeg mis diwethaf."

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales