Croeso ar ddec Hwylio'r Noson Lawen, cyfres newydd llawn cerddoriaeth a chomedi sydd wedi'i ffilmio ar fwrdd llong yr MV Balmoral wrth iddi deithio o amgylch arfordir Cymru.
Bydd y fordaith yn cychwyn nos Sadwrn, 4 Hydref, ym Mhrifddinas Diwylliant Ewrop 2008, Lerpwl, gyda'r llong - a'i chriw - yn ymweld â Phorthaethwy, Caernarfon, Abertawe a'r Barri.
"Bydd naws gwbl wahanol i'r rhaglenni i'r hyn mae'r gwylwyr wedi arfer yng nghyfresi Noson Lawen y gorffennol," eglura cynhyrchydd y gyfres, Hefin Elis. "Tra'r oedd naws wledig yn gyffredinol i'r cyfresi hynny, bydd blas y môr ar y gyfres newydd, gan fanteisio ar y lleoliad unigryw a'r golygfeydd a welir ar hyd yr arfordir."
Bydd digon o hwyl a sbri i'w cael yng nghwmni'r criw, sy'n cynnwys Capten Morgan (Dilwyn Morgan), Idwal y Dyn Jobs Od (Ifan Gruffydd), Mrs O. T. Tomos, y Swyddog Adloniant (Gillian Elisa), Raymond Hughes y Chef (Eilir Jones), T. Total Tomos, y Barddyn (John Ogwen), y meddyg Dr An Gau (Lisa Jên Brown) a Deio Gelwch, y Swyddog Iechyd a Diogelwch (David Oliver).
Dafydd Iwan, Daniel Lloyd a Mr Pinc, Siân James, Parti Cut Lloi ac Enfys, criw ifanc o ardal Dyffryn Clwyd, sydd ymhlith gwesteion y rhaglen agoriadol.
"Bydd amrywiaeth o ddeunydd ymhob rhaglen – eitemau wedi'u perfformio ar ddec y llong, gyda golygfeydd o'r ardal yn gefndir, yn ogystal ag eitemau canu a chomedi yn y bar o dan y dec. Bydd yna gyfle, hefyd, i gyfarfod y criw sefydlog, anghall sy'n llywio'r llong, trwy gyfrwng sgetshis byrion. Y criw hynny sy'n rhoi'r hwyl yn yr Hwylio," ychwanega Hefin.
Yn ystod y gyfres chwe-rhan, bydd Bryn Fôn, Elin Fflur, Catrin Finch, Gwibdaith Hen Fran, Heather Jones, Meinir Gwilym, Geraint Lovgreen, Tebot Piws, Meic Stevens, Huw Chiswell a Nigel Owens ymhlith yr artistiaid fydd yn diddanu'r gynulleidfa wrth hwylio ar hyd yr arfordir.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales