Bydd y bar yn agor eto wrth i gymeriadau'r Bwl ein croesawu i'w plith ar gyfer cyfres newydd o'r rhaglen gomedi.
Mae'r ddrama boblogaidd wedi ei lleoli mewn tafarn pentref dychmygol yng ngogledd Cymru. Wedi ei chynhyrchu a'i ffilmio ar set arbennig, mae'r cast yn cynnwys Sue Roderick, Bryn Fôn, John Glyn Owen, Dafydd Emyr, Bethan Wyn Stevens, Llion Williams, Valmai Jones, Rhys ap Trefor a Mirain Haf.
Mae Lauren Phillips, yr actores 29 mlwydd oed o Ben-y-bont ar Ogwr, yn chwarae rhan Natasha sy'n wyneb newydd yn nhafarn y Bull.
"Mae Natasha yn berson hyderus a fiery iawn," meddai Lauren, oedd yn chwarae rhan yr athrawes, Sara, yn y ddrama Caerdydd.
"Mae hi o'r de yn wreiddiol ond wedi byw yn y Gogs ers iddi fynd i Brifysgol Bangor. Methodd ei blwyddyn gynta' ac mae hi'n penderfynu aros lan ac wedi cael gwaith tu ôl i'r bar yn y Bwl.
"Mae hi hefyd yn high maintenance ac mae hi'n gwybod sut mae defnyddio pobl i gael beth mae hi moyn. Dyw fake-tan a dillad newydd ddim i'w cael am ddim," ychwanega. "Ond rwy'n credu bod ei chalon hi yn y lle iawn. Mae ganddi lot yn ei phen ac mae hi'n gwybod pryd i stopio gwthio pobl."
Mae'r ffaith bod y rhaglen yn cael ei ffilmio mor agos at y dyddiad darlledu gan gyfeirio at bynciau llosg a chlecs yr wythnos yn ychwanegu at y sialens yn ôl Lauren.
"Fel arfer, rwy'n derbyn y script ac yn treulio amser yn ei dysgu ac yn gweithio ar gyfleu'r neges. Wedi'r cwbl, dyna yw fy swydd i fel actores," esbonia. "Mae Ista'nbwl yn wahanol ac mae gennych chi lot mwy o ryddid gyda'r sgript ac rwy'n edrych 'mlaen at y profiad. Ond gan fy mod i'n ychwanegiad newydd i'r criw hefyd, sa'i ddigon hyderus i newid dim eto ac rwy'n fodlon eistedd nôl a dysgu."
Yn rhaglen gynta'r gyfres, mae cryn gyffro yn y Bwl gan fod Julie wedi cynhyrfu'n lân ei bod yn cael mynd am wythnos o wyliau efo Heather, ond mae selogion y dafarn yn amheus o gymhellion Natasha - y gwcw newydd yn y nyth.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales