S4C

Close
Flash is required to view this video

Jonathan

Jonathan

Cyfres newydd o Jonathan a llawer mwy o dynnu coes

Ar drothwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2012, ymunwch â Jonathan Davies, Nigel Owens a Sarra Elgan nos Wener, 3 Chwefror ar gyfer cyfres newydd o Jonathan.

Fe fydd y bennod gyntaf yn dod â llond lle o chwerthin, sialensiau corfforol a thynnu coes wrth i gewri Warren Gatland ymbaratoi ar gyfer y gêm yn erbyn ein cymdogion o'r ynys werdd, Iwerddon.

"Mi fydd yna dipyn o gyffro o amgylch y gêm yma - bydd Iwerddon eisiau dial arnom ni ar ôl i ni guro nhw yn rownd yr wyth olaf Cwpan y Byd yn yr hydref. A bydd bois Cymru eisiau profi nad 'hap a damwain' oedd eu llwyddiant nhw yn y gystadleuaeth," meddai'r gyflwynwraig Sarra Elgan.

"Ac wrth gwrs mi fydd ymddeoliad Shane Williams yn golled enfawr. Nid yn unig bydd y tîm yn gweld eisiau ei brofiad a'i bresenoldeb fel hen ben dibynadwy ar y cae - ond ei gymeriad a'i bresenoldeb oddi ar y maes hefyd.

"Ond mae'r tîm yn llawn o fois ifanc, brwdfrydig, ac er bydd y chwaraewyr a'r cefnogwyr yn gweld eisiau hud a lledrith Shane - y bois ifanc yma yw'r dyfodol ac mi fyddan nhw eisiau profi i bawb bod dyfodol rygbi Cymru yn ddiogel yn eu dwylo nhw," meddai Sarra.

Yn ogystal â gweithio ar gyfres Jonathan, mae Sarra hefyd yn brysur yn codi ymwybyddiaeth am ymgyrch Sport Relief 2012.

"Pan ofynnwyd i mi gefnogi Sport Relief eleni mi ro'n i wrth fy modd. Dwi wastad wedi edmygu'r gwaith da maen nhw'n ei wneud a dwi wedi bod yn ddigon ffodus eleni i ymweld ag Ysgol Tŷ Gwyn yng Nghaerdydd am y tro cyntaf, sef ysgol ar gyfer plant gydag anghenion arbennig sydd wedi elwa o arian Sport Relief.

"Mi roedd yn brofiad ffantastig cwrdd â'r plant, a chwarae gyda'r teganau arbennig a brynwyd gan Sport Relief. Dwi'n gobeithio y bydd pawb yn cefnogi'r ymgyrch gan ei fod yn gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau cymaint o bobl nid yn unig ledled y byd ond fan hyn yng Nghymru hefyd."

Y gwesteion ar raglen gyntaf Jonathan bydd y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Gerald Davies a enillodd 46 o gapiau rhyngwladol rhwng 1966 ac 1978, a'r actor Gwyn Elfyn, a fu'n chwarae rhan Denzil ar Pobol y Cwm am dros 27 o flynyddoedd.

Fe fydd y tri chyflwynydd cystadleuol yn camu ar yr iâ gyda thîm hoci iâ Cardiff Devils ac yn cymryd rhan mewn sialens yn erbyn gôl-geidwad y tîm cyntaf. Bydd Rhian 'Madam Rygbi' Davies hefyd yn dychwelyd i ddod â blas o ddigwyddiadau'r gystadleuaeth i ni yn y stiwdio.