Neidio at y cynnwys

S4C

Bwrlwm parti yng nghwmni P.C. Leslie Wynne

Leslie Wynne yn Cyflwyno: Cabaret Cyffwrdd y Sêr

Bwrlwm parti yng nghwmni P.C. Leslie Wynne

Mae P.C. Leslie Wynne yn dychwelyd i S4C dros yr Ŵyl ac mae'n barod i gynnal parti gorau'r flwyddyn i ddathlu'r Nadolig ac i longyfarch ei arwr, y Prif Gwnstabl Richard Brunstrom, ar ei ymddeoliad.

Cawn ymuno yn hwyl y parti arbennig yn y rhaglen Leslie Wynne yn cyflwyno: Cabaret Cyffwrdd y Sêr.

Gwesteion arbennig

Bydd un o DJ's mwyaf poblogaidd Radio Cymru yn galw heibio a dau wyneb adnabyddus arall yn hel straeon gyda Leslie Wynne, sydd eisoes wedi trefnu'r adloniant, yr hud a'r lledrith a'r raffl fawreddog.

Leslie Wynne yw un o gymeriadau'r digrifwr Tudur Owen ac mae'n edrych ymlaen yn arw at wisgo'r wisg heddlu unwaith yn rhagor.

Meddai Tudur, "Does 'na ddim byd gwell na gweld cynulleidfa lawn o bobl yn chwerthin ar jôcs Leslie Wynne. Mae'n gymeriad sy'n apelio at gymaint o bobl oherwydd ei ddiniweidrwydd ac mae'n cael get-a-wê efo deud pethau na fyddwn i fel Tudur byth yn cael deud."

Teulu Leslie yn ymuno a'r parti

Er mwyn paratoi ar gyfer y parti mawreddog a gynhelir yn guest house ei Anti Maureen, mae'r hen Leslie wedi cael ambell i aelod o'r teulu draw i helpu.

"Am y tro cyntaf erioed bydd Leslie yn cyflwyno rhai aelodau o'i deulu i'r gynulleidfa. Mae wedi cael help gan ei chwaer Vivienne a'i nai Dafydd Iwan er mwyn ffarwelio â'r Chyn Brif Gwnstabl yn ei ffordd unigryw ei hun.

"Mae Leslie wedi danfon gwahoddiad at Richard Brunstrom yn gofyn iddo fynychu'r noson ac mae'n ffyddiog y bydd yn troi i fyny - ond tybed a fydd o?" chwardda Tudur.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales