Neidio at y cynnwys

S4C

Y 7 Magnifico a Matthew Rhys

Y 7 Magnifico a Matthew Rhys

Mewn chwip o gyfres ddwy ran, bydd saith o sêr Cymreig, gan gynnwys y gantores opera Shân Cothi a Steffan Rhodri, sy'n actio ar Gavin & Stacey a Con Passionate, yn mentro i weithio fel cowbois ar ranch go iawn yn Arizona.

Bydd gwylwyr S4C yn darganfod dros y Nadolig a lwyddon nhw i yrru'r gwartheg yn y Gorllewin Gwyllt yn Y 7 Magnifico a Matthew Rhys.

Y cyflwynydd Alex Jones, yr awdur a chyflwynydd Bethan Gwanas, y seren rasio harnes Megan Taff, y joci Hywel Davies a'r actor comedi Iwan John yw'r pedwar arall yn y '7 Magnifico'.

Mae'r actor Hollywood, Matthew Rhys hefyd yn ymuno â nhw am beth o'r amser i helpu eu hysbrydoli, gan fod seren y gyfres Brothers & Sisters yn gallu marchogaeth yn fedrus.

Fe ddaeth y criw at y teulu Moore ar eu Price Canyon Ranch yn Tucson, Arizona, ranch anferth sydd yr un maint ag Ynys Môn, ar adeg brysura'r flwyddyn.

Mae'r teulu, sy'n magu gwartheg hirgorn, yn paratoi i wahanu'r lloi rhag y gwartheg, yn barod i'w gwerthu. Mae'r gyfres yn dilyn 'Saith S4C' wrth iddynt ddysgu marchogaeth yn null y Gorllewin, dod i 'nabod y ceffyl, defnyddio lasŵ, trwsio ffensys, nodi lloi a gyrru gwartheg.

Roedd tri o'r saith yn farchogwyr profiadol iawn. Mae Hywel Davies, sylwebydd ar y gyfres Rasus, yn gyn enillydd dim llai na'r Grand National. Mae Shân Cothi yn ferch i of ac yn berchen ar geffyl, tra bod Megan Taff yn rhedeg stabl broffesiynol yn Llangernyw ac yn yrrwraig rasio harnes broffesiynol. Ond doedd dim un o'r tri wedi arfer â'r steil Western o farchogaeth trwy ddal y ffrwyn ag un llaw a lasŵ â'r llaw arall.

Roedd y pedwar arall yn llai profiadol. Mae Iwan John yn cyfaddef bod ganddo deimladau cymysg am reidio ceffylau a doedd Alex Jones heb farchogaeth ers blynyddoedd mawr. Oedd, roedd Bethan Gwanas a Steffan Rhodri yn gallu marchogaeth... ond roedd gyrru gwartheg yn fater cwbl wahanol.

Wrth eu dilyn dros y ddwy raglen, rydym yn eu gweld yn datblygu fel marchogwyr ac yn magu cwlwm cyfeillgarwch.

Mae Alex Jones yn cyfleu teimladau'r saith. Meddai, "Fi oedd y lleiaf profiadol o'r saith falle. Ond roedd cymryd rhan yn y rhaglen yn un o brofiadau gorau fy mywyd. Heblaw am ddysgu sgiliau'r cowboi, fe wnes i ffrindiau da wnaeth fy annog i'r holl amser."

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales