Neidio at y cynnwys

S4C

Mark Evans: Llanrhaeadr a Llundain

Mark Evans: Llanrhaeadr a Llundain

Blwyddyn ym mywyd y perfformiwr Mark Evans

Mae wedi bod yn flwyddyn brysur i Mark Evans. Mae e wedi chwarae Fiyero yn y sioe West End, Wicked, serennu yn y gyfres i blant bach, Marcaroni, cyflwyno ar Radio Cymru a rhyddhau albwm newydd.

Mewn rhaglen arbennig Mark Evans: Llanrhaeadr a Llundain nos Iau 29 Rhagfyr, fe fyddwn ni'n camu tu ôl i'r llenni gyda'r seren West End o Lanrhaeadr ger Dinbych.

"Fe gytunais i ffilmio'r rhaglen ddogfen yma er mwyn dangos i'r cyhoedd bod gweithio o fewn y diwydiant perfformio yn gallu bod yn anodd ar adegau," meddai Mark, a wnaeth adael ei gartref yn Llanrhaeadr pan ond yn un ar bymtheg oed er mwyn dilyn gyrfa perfformio yn Llundain.

"Roedd y camerâu ffilmio yn fy nilyn i bob man ac mae 'na ambell i foment ddwys iawn yn ystod y rhaglen lle dwi'n mynd yn emosiynol wrth hiraethu am adref. Mae'n gyfle i bobl ddod i fy adnabod yn well, ac i gael cipolwg ar fy mlwyddyn brysuraf erioed."

Fe fydd y rhaglen yn dilyn Mark wrth iddo recordio ei albwm (dwyieithog) cyntaf, yn chwarae un o'r prif rannau yn sioe Wicked y West End, ac yn cynllunio'i fenter 'West End in Wales' am y bumed flwyddyn.

Cychwynnodd Mark y fenter, sef ysgol haf yng ngogledd Cymru, er mwyn rhoi'r profiad cyntaf o berfformio sioe lwyfan i'r bobl ifanc hynny sy'n gobeithio dilyn ôl ei droed i fyd y sioeau cerdd.

Meddai Mark, "Bob blwyddyn mae criw o bobl ifanc 10-18 oed yn cael cyfle i weithio gyda mi a pherfformwyr proffesiynol eraill er mwyn datblygu sgiliau a chreu cysylltiadau ar gyfer y dyfodol. Dwi isio dysgu nhw bod unrhywbeth yn bosib."

Cawn glywed sut y bu i Mark ymladd yn erbyn disgwyliadau cymuned ystrydebol Gymraeg gan ganu a dawnsio yn lle chwarae rygbi neu bêl-droed, a mynnu gwireddu ei freuddwyd o berfformio ar lwyfan y West End.

"Mae rhai yn fy ngalw yn 'Billy Elliot Cymru', ac mae o'n ddarlun eitha' cywir a dweud y gwir. Am ryw reswm na'th yr hogyn bach o Lanrhaeadr benderfynu symud i Lundain i ddilyn ei freuddwyd, ac ni fedra i ddychmygu gwneud unrhywbeth arall rŵan," ychwanega.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales