O New Orleans i Sydney a Sir Fôn - mae'r Mardi Gras yn dod i ogledd Cymru am y tro cyntaf erioed.
Yn y rhaglen Meical a'r Mardi Gras cawn fwynhau holl hwyl, sŵn a lliw Mardi Gras Gogledd Cymru drwy lygaid y cyflwynydd direidus Meical Owen. Bydd e'n crwydro'r maes yn rhoi blas i ni ar y gerddoriaeth, adloniant a'r stondinau ac yn cael sgwrs gyda rhai o'r bobl sydd yno i fwynhau'r carnifal. Bydd hefyd yn cwrdd â rhai o'r trefnwyr i glywed ychydig o hanes y digwyddiad.
Aeth Meical Owen, 29 oed, i un o Mardi Gras enwoca'r byd yn Sydney yn 2004. Mi gafodd brofiad bythgofiadwy yno ac mae'n edrych ymlaen at flasu ychydig o'r awyrgylch anhygoel yn Sir Fôn.
"Mi wnes i fwynhau Mardi Gras Sydney yn ofnadwy. Buaswn i'n mynd yn ôl yna rŵan taswn i'n gallu!" meddai'r cyflwynydd o Bwllheli, sydd hefyd yn wyneb cyfarwydd ar y gyfres gomedi Sioe Tudur Owen ar S4C.
Mae Mardi Gras Gogledd Cymru yn cael ei gynnal ar faes sioe Mona, Sir Fôn a dyma'r digwyddiad mwyaf erioed yn hanes y gymuned hoyw yng Ngogledd Cymru. Mae Mardi Gras yn rhywbeth y byddech chi fel arfer yn cysylltu â dinasoedd, ac mae Meical yn edrych ymlaen at weld yr ymateb i'r digwyddiad yng nghefn gwlad.
"Mae Mardi Gras wedi cael ei gynnal yng Nghaerdydd ers 12 mlynedd rŵan, ac mae'n hen bryd i un gael ei gynnal yng ngogledd Cymru," meddai Meical. "Dwi'n gobeithio bydd y Mardi Gras yn dod â'r gymuned at ei gilydd. Nid digwyddiad ar gyfer pobl hoyw yn unig ydi o.
"Dwi hefyd yn edrych ymlaen at weld beth fydd pobl sydd yn dod o lefydd fel Blackpool a Manceinion yn ei feddwl a hwythau wedi hen arfer â digwyddiadau fel y gorymdeithiau GayPride ac ati."
Mae'n gobeithio hefyd y bydd y digwyddiad yn gafael ac yn tyfu bob blwyddyn.
"Dyma'r cychwyn, a dwi'n gobeithio gwneith o dyfu dros y blynyddoedd. Buaswn i'n cymharu fo efo gŵyl Wakestock wnaeth gychwyn mewn maes parcio yn Aberdaron. Dwi'n cofio mynd i'r un cynta' a doedd 'na fawr ddim yno, 'mond un babell. Ond edrycha ar yr ŵyl heddiw! Dwi'n gobeithio bydd hyn yn digwydd i'r Mardi Gras hefyd."
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales