S4C

Close
Flash is required to view this video

Noson yng Nghwmni Caryl

Noson yng Nghwmni Caryl

Cymeriadau Caryl nôl ar y Sgrîn

Cyflwynydd, cantores, actores, bardd, awdures a mentor i berfformwyr ifainc - mae Caryl Parry Jones yn un o'r doniau creadigol mwyaf yn y byd adloniant yng Nghymru yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.

Does yna ddim ffordd well i ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi ar 1 Mawrth nag ar y sioe arbennig Noson yng Nghwmni Caryl ar S4C.

Yn ystod y sioe fe fydd Caryl yn perfformio rhai o'i hoff ganeuon - ar ben ei hun a gyda'i grŵp 405's.

Mae'n atgyfodi rhai o'r cymeriadau adnabyddus rydym ni gyd wedi gweld eu heisiau - fel Glenys, Lavinia ac Enfys o'r ffilm fytholwyrdd Ibiza! Ibiza!

Mae hi hefyd wedi bod yn brysur yn creu cymeriadau newydd- cawn gwrdd â chesus fel y chwaraewr rygbi siaradus Cameron Jenkins; y disgybl ysgol Ffion Carlton Lewis, Val a Jojo, cwpwl priod ecsentrig sydd wedi symud i fyw i Gymru o Ganolbarth Lloegr. Bydd y comedïwr a'r actor Iwan John yn ymuno yn yr hwyl gyda Caryl.

"Mae chwarter canrif wedi mynd heibio ers i mi greu'r cymeriadau gwreiddiol ar gyfer cyfres "Caryl" a'r ffilm Ibiza! Ibiza! ar S4C, ac yn y cyfamser mae Cymru a'r bobl sy'n byw ynddi wedi newid cryn dipyn, felly fe gododd y cymeriadau newydd yn naturiol oherwydd hynny," esbonia Caryl, sy'n byw ym Mro Morgannwg ond sy'n wreiddiol o Ffynnongroyw yn yr hen Sir y Fflint.

"Dwi ddim wedi selio'r cymeriadau newydd ar unrhyw un yn benodol ond ar fath o Gymry yn gyffredinol. Y gobaith ydy y bydd pawb yn gallu uniaethu gyda'r cymeriadau newydd fel y gwnaethon nhw efo'r hen set o gymeriadau, ac yn medru adnabod eu ffrindiau a'u teulu yn rhai ohonyn nhw.

"Dwi wrth fy modd yn chwarae'r cymeriadau newydd yma, yn enwedig y chwaraewr rygbi Cameron Jenkins. Ond y ferch ysgol Ffion Carlton Lewis yw fy ffefryn. Er ei bod hi'n siarad Cymraeg gwallus mae hi'n siarad lot fawr o synnwyr am bethau dwys am lenyddiaeth Cymraeg, ond yn ei ffordd unigryw ei hun."

Mae Caryl yn gweithio'n galed ar ei phrosiect diweddaraf yn creu albwm newydd yn barod ar gyfer yr haf, ac yn ystod y rhaglen cawn glywed cân newydd oddi arni, sef 'Adref'.

"Dwi 'di bod yn gweithio ar yr albwm newydd ers tipyn ac mi roedd hi'n neis cael cyfle i ganu'r gân newydd ar y rhaglen yn ogystal â'n hen ffefrynnau.

"Mae'r rhaglen yn gymysgedd o sgetsus a cherddoriaeth ac rwy'n credu iddi weithio'n dda. Roedd y gynulleidfa stiwdio yn ymateb yn dda, y band ar eu gorau a'r awyrgylch bersonol yn ei gwneud yn noson gofiadwy," ychwanega.