Neidio at y cynnwys

S4C

Noson Lawen

Noson Lawen Tawe

Bydd y darlledwr amryddawn, Roy Noble, y grŵp pop gwerin, Mynediad am Ddim a'r tenor adnabyddus, Rhys Meirion ymhlith perfformwyr Noson Lawen Tawe, a ddarlledir o Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ifan Gruffydd, y digrifwr meistrolgar o Dregaron, Ceredigion, fydd yn arwain y noson. Bydd Ifan hefyd yn cyflwyno perfformiadau gan yr enwog Gôr Orpheus Treforys ac Einir Dafydd, y gantores o Sir Benfro a enillodd gystadleuaeth WawFfactor 2006 ac a berfformiodd y gân fuddugol yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2007.

Fe ffilmiwyd Noson Lawen Tawe fel rhan o Ŵyl Tyrfe Tawe, sydd wedi ei chynnal yn flynyddol ers 2004. Yn ystod y rhaglen, cawn ddysgu mwy am hanes yr ŵyl gan un o'r sylfaenwyr a'r trefnwyr, Dai Bryer.

Bydd cyfle hefyd i gael blas ar rai o ddigwyddiadau eraill yr ŵyl, gan gynnwys perfformiadau o gerddoriaeth nostalgic gan y band roc Crys a'r canwr amryddawn Neil Rosser, yn ogystal â noson werin yng nghwmni'r bandiau 9Bach ac Y Gentle Good.

"Bydd y rhaglen hon yn gyfle euraidd i fwynhau gwledd o ganu a chwerthin gan rai o ddiddanwyr a chantorion gorau'r wlad," meddai Hefin Elis, cynhyrchydd y rhaglen.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales