Neidio at y cynnwys

S4C

Noson Lawen

Noson Lawen Llechwedd

Caryl Parry Jones sy'n cyflwyno rhifyn hudolus o'r Noson Lawen, a recordiwyd dan ddaear yn awyrgylch syfrdanol Ceudwll Llechi Llechwedd, ger Blaenau Ffestiniog.

Bydd Connie Fisher, a chwaraeodd Maria yn The Sound of Music yn y West End, ac un o sopranos mwyaf blaenllaw'r byd, Elin Manahan Thomas ymhlith yr artistiaid sy'n perfformio yn y rhaglen, a ddarlledir Nos Galan ar S4C.

Dyma'r tro cyntaf yn hanes y gyfres i Caryl gadw trefn ar holl ddigwyddiadau'r noson.

"Mi fydd hi'n sialens a hanner i arwain y Noson Lawen mewn ogof yng nghanol gaeaf, ond mae'n rhaid imi gyfaddef bod y lle yn anhygoel ac yn hudolus dros ben," meddai'r gantores a'r gyfansoddwraig, sydd hefyd yn adnabyddus fel actores, cyflwynydd a Bardd Plant Cymru 2007-08.

Mae Caryl, sy'n enedigol o bentref Ffynnongroyw, Sir y Fflint, yn ffrindiau gyda Connie Fisher, y gantores o Sir Benfro.

"Dwi wedi adnabod Connie ers iddi fod yn 16 oed drwy Eisteddfodau ac ati, ac mae ei llais hi wedi datblygu'n aruthrol ers iddi gyrraedd yr uchelfannau. Mae hi'n andros o ferch neis ac mae ei thraed hi ar y ddaear.

"Mi fydd hi'r un fath ag aduniad rhwng y tair ohonom - fi, Elin a Connie. Elin yw un o'r sopranos gorau yn y byd; mae hi'n dehongli'r caneuon mor dda ac yn edrych yn hyfryd wrth berfformio. Rwy'n disgwyl ymlaen yn arw at ei gweld eto," esbonia.

Yn ymuno â Connie ac Elin ar y llwyfan bydd Côr Meibion y Brythoniaid, Gwibdaith Hen Frân, Eilir Jones (fel Ffarmwr Ffowc) a Myrddin ap Dafydd.

Ychwanega Caryl, "Mi fydd hi'n braf croesawu'r flwyddyn newydd gyda llu o wynebau adnabyddus a llond chwarel o adloniant!"

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales