Neidio at y cynnwys

S4C

Rhydian

Rhydian

Mae hi wedi bod yn flwyddyn fawr i Rhydian Roberts yn dilyn ei lwyddiant ar y rhaglen deledu X Factor y llynedd.

Er mai yn ail y daeth Rhydian yn rownd derfynol y gyfres, mae'r canwr 25 oed o Bontsenni wedi profi llwyddiant arbennig yn ystod ei flwyddyn gyntaf fel perfformiwr proffesiynol.

Bydd y rhaglen ddogfen Rhydian ar S4C yn dilyn y canwr wrth iddo recordio'i albwm cyntaf yn Llundain, Los Angeles a Stockholm ac wrth iddo berfformio mewn cyngherddau di-ri, gan gynnwys sioe fawreddog y Gamp Lawn - Dathliad y Pencampwyr - yn Stadiwm y Mileniwm fis Mai diwethaf.

Ceir cyfle hefyd i weld Rhydian yn dychwelyd i lwyfan X Factor yn ddiweddar i berfformio fel gwestai ac yn ymlacio adref gyda'i rieni ym Mhontsenni, yn y Bannau.

Ar ôl arwyddo cytundeb gyda Simon Cowell, un o'r beirniaid ar X Factor, i recordio'i albwm cyntaf i Sony BMG, bu Rhydian yn gweithio gyda chynhyrchwyr rhyngwladol amlwg. Lansiwyd yr albwm ‘Rhydian' ddiwedd Tachwedd a bydd holl gyffro'r lansiad hefyd yn y rhaglen.

Bydd Simon Cowell, Louis Walsh a Danii Minogue, tri o'r beirniaid fu'n gefnogol i Rhydian ar X Factor, yn siarad ar y rhaglen am lwyddiant Rhydian yn ystod ei flwyddyn fawr.

"Rwy'n ffrindiau da gyda Dannii - rydyn ni'n siarad ar y ffôn unwaith yr wythnos. Rwy'n mynd i Awstralia i aros gyda hi a Kylie flwyddyn nesaf," medd Rhydian.

Yn ddisgybl ysgol, bu'n rhaid i Rhydian ddewis rhwng gyrfa fel chwaraewr rygbi neu fel canwr. Roedd yn gapten tîm rygbi Coleg Llanymddyfri ac, ar un adeg, roedd ei fryd ar chwarae i dîm rygbi'r Gweilch yn Abertawe.

"Pan oeddwn i'n fachgen ifanc, roeddwn i eisiau chwarae rygbi dros Gymru," meddai Rhydian. "Yn anffodus, fe ges i anaf gwael dros ben i fy nghoes i ac fe gollais i ormod o gyflymdra. Roeddwn i mewn poen bob tro o'n i'n mynd ar y cae rygbi a doeddwn i ddim yn mwynhau chwarae ar ôl i fi gael yr anaf."

Felly canu enillodd y dydd ac mae'r rhaglen yn bortread o Rhydian wrth iddo wireddu uchelgais - gweld ei albwm cyntaf yn cael ei lansio.

Roedd canu yn sioe'r Gamp Lawn yn Stadiwm y Mileniwm yn un o uchafbwyntiau bythgofiadwy'r flwyddyn i Rhydian. "Mae gen i lawer o uchafbwyntiau, a dweud y gwir," meddai. "Fe wnes i gwrdd â'r Tywysog Charles nôl ym mis Mehefin ar ôl perfformio mewn digwyddiad ar gyfer y Prince's Trust - roedd hwnna yn arbennig. Roedd e'n grêt i berfformio yng nghyngerdd parti pen-blwydd Andrew Lloyd Webber yn 60 oed hefyd."

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales