Aled Sam - a Tincyls y gath - sy'n bwrw golwg yn ôl ar yr wythnos a fu a'r wythnos i ddod ar deledu, ffilm a'r we.
Bob awr o'r dydd a'r nos, mae Aled yn sniffian am stori dda - y gwallus a'r gwarthus - ar bob sgrin sy'n diddanu: o drydar i deledu a sgrin fawr y sinema.
Gyda trwydded lawn i ganmol ac ypsetio pawb, popeth a phob digwyddiad does wybod beth fydd i'w glywed ar Sam ar y Sgrin.
Mae Aled eisiau eich sylwadau chi am beth rydych chi wedi ei weld ar S4C yr wythnos hon.
Bob wythnos mae Aneirin Karadog yn cyflwyno eitemau ychwanegol am raglenni a ffilmiau sydd ar y gweill.
Mae'n cael mynd tu ôl y llenni yn ystod ffilmio rhaglenni a chyfresi S4C ac hefyd mae'n chwilio am y cysylltiad Cymreig mewn ffilmiau ac ar deledu y tu hwnt i Gymru -yn cynnwys cyfweliadau ar y carped coch.
Mae lluniau o Anturiaethau Aneirin ar y dudalen Facebook.