Mae brenin y sioe siarad yn ôl ar y sgrin fach dros yr Ŵyl.
Na, nid Michael Parkinson sy’n rhoi’r gorau i’w ymddeoliad - y Cwnstabl ‘Special’ P.C. Leslie Wynne fydd yn dathlu’r Nadolig mewn rhifyn tymhorol o’i sioe siarad ar Ddydd San Steffan, 26 Rhagfyr.
Bydd Leslie’n croesawu llu o westeion i’w ‘winter retreat’, gan gynnwys y cyflwynwyr teledu Iolo Williams a Sarra Elgan a’r gantores Margaret Williams.
"Bydd yna fwy o hwyl gydag wynebau cyfarwydd a llond y lle o ffrindiau newydd. Dwi mor ecseited!" meddai P.C. Leslie Wynne, a bortreadir gan y digrifwr Tudur Owen.
"Dwi am roi rwbath nôl i’r gymuned dros Nadolig, felly fydda i hefyd yn crwydro’r strydoedd i roi ambell syrpreis tymhorol i bobl a chynnig iddyn nhw hygio’r heddwas."
Gan fod band yr Asbos wedi cael eu hel i’r carchar am fethu eu probation, bydd Hogia’r Ddwylan, enillwyr Côr Meibion y Flwyddyn Radio Cymru, yn ymuno yn y dathlu.
Ychwanega P.C. Leslie, "Ac mae gen i best friend newydd yn siâp yr eicon, y diva, y seren, brenhines Cymru - Margaret Williams. Gwnaeth hi gymaint o argraff arna i pan ddaeth hi i weld fi ar fy sioe y tro diwetha’. Mi fydd hi’n ôl yn fy helpu i addurno’r caban a chanu medley Nadoligaidd wrth fy ochr yn ystod y noson."
Daeth P.C. Leslie Wynne at sylw gwylwyr S4C gyntaf yn y sioe sgetsus Mawr!, cyn cael cyfle i serennu yn ei gyfres ei hun.
Bydd Tudur Owen yn cyflwyno cyfres gomedi stand-yp a sgwrs, Tudur Owen o’r Doc, ar S4C yn y Flwyddyn Newydd.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales