Mae'r gyfres Digwyddiadau '11 yn parhau ar S4C wrth i Morgan Jones, Mari Grug a Daloni Metcalfe ddod â'r gorau o sioe amaethyddol fwyaf gogledd Cymru, Sioe Môn, i wylwyr S4C.
Mewn dwy bennod arbennig awr o hyd a ddarlledir yr un nosweithiau â'r sioe ei hun - Mawrth, 9 Awst a Mercher, 10 Awst - cawn flas ar y cystadlu a'r bwrlwm ar faes y sioe. Bydd modd i ymwelwyr i'r sioe fwynhau'r diwrnod ar y maes cyn dychwelyd adref i wylio'r goreuon eto gyda'r nos ar S4C. Mi fydd y rhaglen yn gwbl gyfoes gan adrodd ar ddigwyddiadau 'Primin Môn' yn gynt nag yn unman arall.
Yn ogystal â'r cystadlaethau dangos stoc mae yna gystadlaethau ceffylau, arddangosfeydd crefft draddodiadol a gweithgareddau gwledig fel pysgota plu, heboga a threialon cŵn defaid. Mae hefyd neuadd fwyd sy'n arddangos cynnyrch gorau'r ynys a'r ardal gyfagos.
Mae Mari Grug, sy'n wreiddiol o Sir Benfro ac yn aelod o'r tîm cyflwyno, yn edrych ymlaen at weithio yn y Sioe. "Wnes i fynychu Sioe Môn am y tro cyntaf y llynedd, a mwynhau'r profiad yn fawr. Mae hi'n sioe sy'n debyg iawn i Sioe Sir Benfro o ran ei maint, safon y cynnyrch a'r cymeriadau gwledig difyr - ond bod yr acen sydd o'ch cwmpas yn amlwg yn gwbl wahanol. Mae'r ddwy sioe yn ail agos i'r Sioe Frenhinol.
"Mae'r angen i baratoi'r rhaglenni ar gyfer yr un noson yn dipyn o sialens i'r tîm cyflwyno a chynhyrchu, ond mae hefyd yn dod ag elfen gyffrous i'r peth. Bydd hi'n ddiwrnod llawn gyda chryn dipyn o gerdded, felly mae'r traed yn siŵr o fod yn dost erbyn diwedd y dydd!"
Byddwn hefyd yn dilyn hynt rhai teuluoedd sydd yn dangos stoc ac yn beirniadu yn y sioe, a gwelwn y paratoadau cyn y diwrnod mawr.
Cawn gwrdd â theulu Gareth a Nerys Roberts, Fferm Glasfryn, Brynsiencyn, Ynys Fôn sy'n gyfrifol am adran y moch yn y sioe eleni. Bydd y teulu cyfan yn cystadlu a beirniadu mewn amryw gystadlaethau. Bydd Siân y ferch, a fu'n llysgenhades y sioe'r llynedd, yn beirniadu'r gystadleuaeth honno eleni, a bydd Gwyn a Gethin, y meibion, yn cystadlu yn adran y moch.
Cawn hefyd gyfarfod Emyr Evans a'i fab o Gaerwen, sydd â chwmni gwerthu peiriannau JCB, ac sy'n noddi'r arddagnosfa Dancing Diggers yn y prif gylch.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales