Ydych chi erioed wedi defnyddio riwbob er mwyn glanhau yn eich cartref? Ydi hi'n bosib trawsnewid bwrdd pren diflas i rywbeth retro a chyfoes heb wario ceiniog? Beth yw'r delweddau sy'n ffasiynol yn y cartref ar hyn o bryd?
Peidiwch â phoeni - mae'r holl atebion ar gael mewn cyfres newydd ar S4C, Sioe'r Tŷ, wrth i Sarra Elgan, Darran Phillips a thîm o arbenigwyr ceisio helpu gwella eich cartrefi. Bob wythnos bydd arbenigwyr yn eu maes yn cynnig y cyngor gorau i'r rheini sydd eisiau gwneud eu cartrefi'n fwy cyfforddus, yn fwy prydferth neu'n fwy ymarferol, ynghyd â chyngor i'r rheini sydd eisiau gwneud elw o'u tai neu sicrhau'r gwerth gorau.
Yn ystod y rhifyn agoriadol, bydd y ddylunwraig Leah Hughes yn sôn am y tueddiadau ffasiwn ar gyfer y cartref, yr arbenigwraig glanhau Ann Jones gyda'i chyngor unigryw ar sut i gadw eich nwyddau gwerthfawr yn lan ac Ann Hughes yn troi hen fwrdd coffi i fod yn ddarn o ddodrefn newydd a chyfoes.
Bydd Darran yn edrych ar y materion ariannol sy'n peri pryder i'r cyhoedd. Cawn ddysgu beth yw'r ffordd orau i gael y gorau o'r cwmnïoedd o adeiladwyr rydym yn eu cyflogi i weithio ar ein cartrefi.
Hefyd, mae Sarra'n dysgu mwy am y genhedlaeth newydd o gartrefi sydd ar fin glanio yng Nghymru - Y Pod. Mae eisoes wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn Iwerddon, ac mae ffatri yn y Drenewydd wrthi'n dylunio ac adeiladu Y Pod yn barod i gael eu danfon i unrhyw leoliad yn y wlad - ar gefn lori.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales