Mae Tudur Owen yn ei ôl gyda chyfres newydd o'i sioe, ac yn westeion yn y rhaglen gyntaf bydd Iwan John a Heulwen Haf. Byddwch yn barod am fwy fyth o hwyl, chwerthin a thynnu coes.
"Mae yna lawer o elfennau sy'n gyfarwydd i'r gwylwyr ond mae angen newid weithiau i gadw pethau'n ffres. Felly, mae 'na bethau bach newydd i'r gynulleidfa yn y gyfres hon," meddai Tudur.
"Mae'r gynulleidfa wastad wedi bod yn rhan bwysig o'r rhaglen a dydyn nhw byth yn fy siomi i wrth fynd i hwyl y sioe. I nodi hyn, byddwn ni'n dewis 'Seren Wib' o'u plith - sef aelod o'r gynulleidfa sy'n dod i ymuno â mi ar y llwyfan, fel trydydd gwestai mewn ffordd. Byddan nhw'n cael eistedd yn eu cornel fach arbennig ac yn cael pob math o 'ffyss' yn cynnwys siampên a siocled. Bydd hynny'n dipyn o hwyl!
"Hefyd, yn rhan ola'r rhaglen, a gan ei bod hi'n benwythnos, ro'n i'n meddwl byddai'n neis cael cwis. 'Iawn Mêt' ydi enw'r cwis a bydd yna gwpl sy'n nabod ei gilydd yn reit dda yn dod i fyny ac yn cystadlu mewn gêm wirion i drio ennill £1,000."