Y digrifwr Tudur Owen fydd yn cymryd yr awenau yn ei gyfres newydd Tudur Owen o'r Doc.
Wedi blynyddoedd yn perfformio comedi stand-yp ar hyd a lled y wlad, o Glwb Rygbi Crymych i'r Comedy Store yn Llundain, mae Tudur bellach yn edrych ymlaen at gael dod â'i hiwmor i'r sgrîn fach.
Er bod gwylwyr S4C yn gyfarwydd â gweld Tudur yn perfformio cymeriadau comedi, gan gynnwys yr enwog PC Leslie Wynne ac wrth gwrs, un rhan o'r triawd cegog, Beryl, Cheryl a Meryl, dyma'r tro cyntaf y byddwn yn gweld Tudur fel fe ei hun.
Meddai Tudur, "Mae'n gyffrous iawn i mi achos fy mod yn cael perfformio allan o gymeriad. Ac er bod yr hen PC Leslie Wynne yn ‘hard act to follow' dwi'n edrych ymlaen at geisio gwneud cynulleidfa i chwerthin heb wisgo ‘eyeliner'."
Yn ôl Tudur, bydd y gynulleidfa yn y stiwdio yn chwarae rôl bwysig hefyd. "Bydd y rhaglen yn cael ei recordio yn adeilad arbennig Galeri Caernarfon bob wythnos ble fydd gwesteion gwahanol yn ymuno â mi o flaen cynulleidfa fyw. Felly yn ogystal â digon o chwerthin bydd cyfle hefyd i bobl ymateb a chyfrannu at yr hyn sy'n digwydd ar y llwyfan.
"Y peth dwi'n mwynhau fwyaf am berfformio o flaen cynulleidfa yw'r ffaith nad ydych chi byth yn rhy siŵ r beth sy'n mynd i ddigwydd nesaf. Gyda'r ddigrifwraig Gwenllian Jones a'r actor Rhys ap Hywel yn ymuno yn y rhaglen gyntaf, mi fydd yn rhaid i mi fod yn barod am unrhyw beth."
Mae Tudur yn hen law ar drin cynulleidfaoedd gan iddo weithio fel stand-yp yng Nghymru a thu hwnt ers dros ddeng mlynedd. Mae'n teithio yn rheolaidd i berfformio mewn clybiau comedi ar hyd a lled Prydain ac eleni fe dreuliodd gyfnod yn perfformio ei sioe ei hun, The Worst Zoo in Britain, yng Ngŵyl y Ffrinj, Caeredin.
"Does dim gwahaniaeth mawr rhwng perfformio yn Saesneg neu yn y Gymraeg i fod yn onest," meddai Tudur. "Mae pawb yn chwerthin am yr un petha mewn gwirionedd, heblaw am jôcs am bobl Sir Fôn. Dwi'n ffeindio bod cynulleidfaoedd ddim yn chwerthin am rheiny y tu allan i Gymru - nac yn Sir Fôn wrth gwrs"
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales