Mae'r digrifwr Tudur Owen wedi hen arfer â pherfformio o flaen cynulleidfaoedd mawr. Yn wyneb cyfarwydd ar gylchdaith gomedi Prydain mae Tudur hefyd wedi perfformio ar lwyfan Gŵyl Frinj Caeredin. Ond nawr, mae'n dychwelyd i'r sgrin fach i gyflwyno cyfres newydd o Tudur Owen o'r Doc ar S4C.
Yn ôl yr arfer bydd llond lle o wynebau adnabyddus yn ymuno ag ef yn ystod y gyfres gan gynnwys yr Archdderwydd T. James Jones, yr actor Steffan Rhodri a'r cyflwynydd Heledd Cynwal.
"Dwi'n gweithio'n galed i feddwl am westeion na fyddai pobl yn dueddol o'u cysylltu â'i gilydd - mae cael dwy farn wrthgyferbyniol bob amser yn sail dda i gomedi," meddai Tudur.
Ond nid dibynnu ar ei westeion yn unig fydd e, "Bydda i bob amser yn dweud bod tri gwestai ar fy rhaglen, sef y ddau ar y soffa, a'r gynulleidfa - a nhw yw gwir sêr y sioe," medai.
Mae'r cyflwynydd yn cyfaddef mai'r gynulleidfa sy'n dod â phopeth yn fyw iddo, a'r elfen annisgwyl sy'n rhoi mwynhad iddo.
"Fedrwch chi ddim rhagweld sut mae'r cyhoedd am ymateb. Faswn i byth yn gallu sgriptio'r hyn maen nhw'n ei ddweud"
Un o wynebau - a lleisiau - mwyaf adnabyddus Cymru, Eleri Siôn, a Julian Lewis Jones, yr actor a ymddangosodd yn y ffilm 'Invictus' ochr yn ochr Matt Damon a Morgan Freeman fydd y gwesteion yn y bennod gyntaf nos Wener.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales