Neidio at y cynnwys

S4C

Tudur Owen ar ei Ben ei Hun

Tudur Owen ar ei Ben ei Hun

Mewn rhaglen arbennig, byddwn yn dilyn y digrifwr Tudur Owen, sy'n adnabyddus am greu cymeriad PC Leslie Wynne, wrth iddo wireddu breuddwyd a chynnal sioe lwyfan un dyn yng Ngŵyl Ffrinj, Caeredin.

Y Noson Agoriadol

Yn ystod y rhaglen, cawn ddilyn Tudur wrth iddo baratoi ar gyfer noson agoriadol ei sioe, The Worst Zoo in Britain. Mae'n disgrifio'r gwaith paratoi a'r sialens o gael pobl i fynychu'r sioeau bob nos, fel "profiad anoddaf fy mywyd."

Fe gynhaliwyd yr Ŵyl fis Awst diwethaf ac roedd cystadleuaeth ffyrnig rhwng y gwahanol sioeau. Roedd Tudur yn cystadlu yn erbyn digrifwyr adnabyddus fel Michael McIntyre a Bill Bailey a thros 2,500 o sioeau gwahanol bob dydd i gael cynulleidfa.

"Ond roedd hi'n gyfle arbennig i fi fagu hyder yn perfformio yn Saesneg. Dwi ddim yn gallu meddwl mor chwim yn y Saesneg, ac yn gorfod cyfieithu o'r Gymraeg, felly roedd hi'n brofiad arbennig."

Tudur yng Nghaeredin

Cyn perfformio yn y Ffrinj, roedd Tudur yn ffan mawr o'r Ŵyl ac yn mynychu bob blwyddyn. Dyma a'i sbardunodd i berfformio yno - hynny a'r ffaith ei fod yn dathlu ei ben-blwydd yn 40 y llynedd!

"Uchafbwynt y flwyddyn i fi yw ymweld â Chaeredin. Mae yna bob math o adloniant byw yno - o berfformiadau comedi, stand-yp, theatr stryd a pherfformiadau cerddorol. Mae yna buzz anhygoel i'r lle."

Mae Tudur yn teithio'n rheolaidd i berfformio mewn clybiau comedi ar hyd a lled Prydain ac mae'n hen law ar drin cynulleidfaoedd ar ôl gweithio fel stand-yp yng Nghymru a thu hwnt ers dros ddeng mlynedd.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales