Mae pobl Prydain ar fin gwylio un o'r digwyddiadau mwyaf nodedig yn hanes y teulu brenhinol wrth i'r Tywysog William briodi Kate Middleton.
Bydd llygaid y byd ar Abaty Westminster yn Llundain ar fore Gwener 29 Ebrill a chewch wylio'r achlysur hanesyddol yn fyw ar S4C.
Rhun ap Iorwerth fydd yn arwain darllediadau S4C o Lundain, gyda Nia Tudur, Ellis Roberts, Elen Wyn a Gwenfair Griffith hefyd yn gohebu ar yr achlysur mewn amryw o leoliadau. Bydd Aled Huw a Nêst Williams yn ein tywys drwy'r seremoni briodasol.
Ond nid dyma'r unig raglen fydd yn nodi'r achlysur ar S4C. Ar noswyl y briodas fawr mae S4C wedi sicrhau mynediad i ddathliad arbennig iawn ac mae gwahoddiad i chi ymuno yn y cyffro a'r chwerthin.
Yn y rhaglen arbennig Wil a Cêt, cawn ddilyn hanes tri chwpl wrth iddyn nhw gystadlu am wobr arbennig iawn. Mae'r cyplau i gyd yn rhannu'r un enwau â'r pâr brenhinol ac hefyd wedi ymgartrefu ar Ynys Môn. Bydd y Wils a'r Cêts yma yn brwydro am wahoddiad i ddigwyddiad ecsgliwsif i ddathlu'r briodas fawr a chyfle i gwrdd ag enwogion yr Ynys.
Dyma raglen ysgafn sy'n darganfod pa gwpl sy'n deall y curtseys a'r corgis, y wax jackets a'r Windsors.
Yn ogystal, daw rhifyn o'r gyfres newyddion i blant a phobl ifanc, Ffeil, yn fyw o Lundain ddydd Iau. Ar y noson cyn y briodas, mi fydd Catrin Heledd y tu allan i Balas Buckingham gan ddilyn yr holl baratoadau a chlywed ymateb pobl ifanc Cymru i'r digwyddiad.
Bydd sylw ar Wedi 3 a Wedi 7 gydol yr wythnos hefyd. Steil y briodferch a'r gwesteion fydd yn ennyn diddordeb yr arbenigwr ffasiwn Huw Rees; bydd y delynores Claire Jones yn paratoi ar gyfer ei pherfformiad yn y briodas drwy berfformio'n fyw ar S4C; a chawn ddilyn y Parchedig Gareth Morgan Jones o Bontardawe wrth iddo fynychu'r briodas fel Llywydd Eglwysi Cymru. Ac wrth i lygaid y byd wylio'r briodas yn Llundain, bydd pâr o Gwm Gwendraeth sy'n priodi'r un diwrnod yn cael eu dilyn gan gamerâu Wedi 7.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales