S4C

Close
Flash is required to view this video

Y Sipsiwn

Y Sipsiwn

Ar y lôn i ddathlu tymor Y Sipsiwn ar S4C

Ymunwch ag Ifan Jones Evans a Shân Cothi ar hen lwybr Sipsiwn Romani Cymru o Langrannog, Ceredigion i Rosebush, Sir Benfro wrth iddynt ei throi hi am y ffordd fawr yn y gyfres newydd Y Sipsiwn rhwng 25 a 30 Mehefin.

Bydd y cyflwynwyr yn camu'n ôl i flynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif wrth deithio mewn carafán sipsiwn - a elwir yn 'Varda'.

Ar hyd y daith, bydd y tîm yn cyfarfod pobl o dras Romani, yn ogystal â darganfod mwy am y cyfnod gyda'r hanesydd Arddun Arwyn ac am hanes teulu'r Sipsiwn Cymreig, Abram Wood, gyda'r hanesydd Gari Wyn. Cyflwynir eitemau am eu traddodiadau, eu cerddoriaeth a'u diwylliant yng Nghymru, Ewrop a'r byd, ac yn enwedig yr erledigaeth a'r rhagfarn y bu'n rhaid iddynt wynebu dros y cenedlaethau.

Bydd digwyddiad cymunedol lleol yn cyd-fynd â'r rhaglenni byw bob nos am 8.25pm. Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau nosweithiol, ewch i wefan Caban, s4c.co.uk/caban. O gystadleuaeth 'Mabolgiamocs' i Dalwrn y Beirdd a pharti traeth, bydd Y Sipsiwn hefyd yn mynd ati i ddarganfod sut mae'r Teithwyr wedi gadael eu hôl ar fywyd a hanes Cymru.

Ar yr un pryd â darllediadau'r gyfres, cynhelir mis o ddigwyddiadau er mwyn dathlu traddodiadau'r Sipsiwn Romani yng Nghymru. Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydau Romani sy'n arwain y dathliadau.

Mae'r gymuned Romani yn teimlo bod rhai rhaglenni teledu am Deithwyr yn y gorffennol wedi arwain at ragfarn negyddol tuag at Sipsiwn. Ond mae cyfres S4C a digwyddiadau'r Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydau Romani yn cael eu hystyried fel cyfle i esbonio'r dreftadaeth a'r ffordd o fyw mewn ffordd gytbwys.

Dywedodd Isaac Blake, Cyfarwyddwr y Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydau Romani, "Mae Y Sipsiwn yn gyfres gyfoes sy'n ystyried hanes traddodiad y Sipsiwn Romani hefyd, gan helpu i greu ymwybyddiaeth o'r cefndir a'r hanes, yn ogystal â sefyllfa'r gymuned heddiw. Y gobaith yw y bydd yn gwrthbwyso rhywfaint o'r rhagdybiaethau negyddol yn y cyfryngau, gan herio'r stereoteipiau a'r mythau."

Ychwanegodd Dyfrig Davies, Uwch Gynhyrchydd y gyfres ar S4C, "Mae'n anrhydedd cael gweithio ar y gyfres a hynny oherwydd ei fod yn bwnc mor ddiddorol. Hefyd mae wedi fy ngoleuo i'r rhagfarn y mae'r Sipsi Romani wedi'i dioddef. Dwi'n edrych ymlaen at ddeffro atgofion pobl o'r Sipsiwn Romani a'r modd y maen nhw wedi cyfoethogi'n diwylliant ni."

Darlledir rhaglenni pellach yn ystod tymor y Sipsiwn ar S4C, gan gynnwys rhaglenni dogfen am hanes y Sipsiwn yng Nghymru, cipolwg ar fywyd presennol cymdeithas y Sipsiwn Romani yng Nghymru a rhaglen am gerddoriaeth Sipsiwn Romani. Yn ogystal, darlledir ffilm arobryn S4C, Eldra, a seilir ar fywyd cynnar Eldra Jarman.