Neidio at y cynnwys

S4C

Cyngerdd Ysgol Glanaethwy yn 18

Cyngerdd Ysgol Glanaethwy yn 18

Roedd y theatr yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd dan ei sang ar gyfer dathliad pen-blwydd go arbennig. Ac roedd camerâu S4C yno hefyd a chawn ninnau fwynhau'r dathlu mewn noson wych o adloniant ar Noswyl Nadolig.

Yr achlysur oedd cyngerdd i ddathlu pen-blwydd Ysgol Glanaethwy yn 18 oed, gyda nifer o gyn-ddisgyblion yn cymryd rhan, yn ogystal â'r disgyblion presennol. Ymysg y rhai a ymddangosodd ar y llwyfan oedd y cantorion Gwyneth Glyn, Lleuwen Steffan, Lisa Jên, Mirain Hâf, Emyr Gibson ac Owen Arwyn.

Sefydlwyd ysgol berfformio Ysgol Glanaethwy ym 1990 gan Rhian a Cefin Roberts. Codwyd adeilad pwrpasol ar gyfer yr Ysgol ym Mharc Menai ger Bangor lle mae'r 250 disgybl yn derbyn hyfforddiant arbenigol gan Rhian a Cefin, Lowri Hughes ac Einion Dafydd. Mae 2008 wedi bod yn flwyddyn arbennig o gofiadwy iddynt gydag ymddangosiad disglair y côr hŷn yn y gystadleuaeth Last Choir Standing ar y BBC, a pherfformiad ar lwyfan Gŵyl y Faenol.

Ar ôl yr holl brysurdeb mae Cefin a Rhian yn edrych ymlaen at gael hoe dros wyliau'r Nadolig.

Meddai Cefin, "Mi rydan ni wedi neilltuo pythefnos rhydd er mwyn cael cyfle i fwynhau'r Nadolig yng nghwmni teulu a ffrindiau. Cheuthon ni ddim gwyliau haf eleni oherwydd Last Choir Standing ac felly mi rydan ni'n edrych ymlaen at Nadolig traddodiadol."

Mae'r ysgol wedi rhyddhau CD newydd i gyd-fynd â'r gyngerdd sy'n cynnwys caneuon fel Adiemus ac O Fortuna a berfformiwyd ar y noson yng Nghanolfan y Mileniwm. Yn ogystal â'r gyngerdd bydd yr ysgol hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau pen-blwydd eraill ar draws y wlad.

Dywed Rhian fod sawl uchafbwynt wedi bod dros y blynyddoedd ers sefydlu'r ysgol ond yr hyn sy'n rhoi'r balchder mwyaf iddi hi a Cefin yw "gweld y disgyblion dal isho dod yn ôl aton ni a'r brwdfrydedd sy'n parhau i fod yno. Mae'r agosatrwydd sydd wedi datblygu rhyngddon ni ac aelodau'r ysgol yn rhywbeth yr ydym yn ei drysori."

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales