Cyfres ddrama newydd gan Siwan Jones, awdures y cyfresi poblogaidd Tair Chwaer a Con Passionate. Mae'r gyfres yn dilyn Alys, mam sengl ifanc a'i mab chwech oed, Daniel, ar ôl iddyn nhw ffoi o'u gorffennol yng Nghaerdydd gan lanio mewn tref fechan yng ngorllewin Cymru.
Sgwrs gyda Siwan Jones
"Pan rwy'n sgwennu, rwy'n mynd i mewn i fyd y cymeriadau ac yn ei chael hi'n anodd i wneud unrhyw beth arall." Darllenwch yr erthygl yn Sgrîn gydag awdur y ddrama, Siwan Jones yn siarad am ei gwaith.

