Y Gyfres
Mae cyfres ddrama newydd yr awdures Siwan Jones yn gosod her i'r gwyliwr wrth bortreadu'r ddau fyd sy'n bodoli oddi fewn tref fechan yng ngorllewin Cymru. Byd perchenogion y siopau, a byd y rhai sy'n byw y tu ôl ac uwchben y siopau hynny. Dau fyd cwbl wahanol, sydd eto yn cyffwrdd â'i gilydd ac yn rhannu profiadau.
Darllen mwy
"Mae Alys yn ddrama ddwys iawn, ond mae 'na ddogn o hiwmor du yn perthyn iddi," meddai Siwan, a greodd y cyfresi llwyddiannus a phoblogaidd Tair Chwaer a Con Passionate ar gyfer S4C.
"Mae 'na elfen o stori ddirgel ynddi hefyd - stori iasoer. Yn sicr, rwy'n ceisio arbrofi ac mae 'na naws wahanol yn perthyn iddi. Mae'n filmic iawn wrth i mi gyfleu dyheadau mewnol y cymeriadau a'r gymdeithas maen nhw'n perthyn iddi."
Mam sengl ifanc yw Alys sydd wedi ffoi o'i gorffennol yng Nghaerdydd gyda'i mab bach, Daniel, ac wedi glanio mewn tref fechan yng ngorllewin Cymru. Mae'n benderfynol o roi bywyd gwell a dechrau newydd i'w mab.
"Mae Alys yn arwres gyfoes, yn llinach arwresau hanesyddol fel Gwenllian a Buddug," meddai cynhyrchydd y gyfres, Paul Jones. "Yn wahanol i Con Passionate a oedd yn pwysleisio breuder dynion, yn y gyfres hon, mae Siwan wedi mynd i mewn i fywydau merched sy'n cael dylanwad ar yr hyn sy'n digwydd o'u cwmpas."
Yr actores 24 oed o Rydaman, Sara Lloyd Gregory, sy'n chwarae rhan Alys. Crëwyd y rhan yn arbennig ar ei chyfer gan Siwan Jones. "Wy'n ei hystyried hi'n anrhydedd fy mod wedi cael cyfle i chwarae'r brif ran mewn cyfres ddrama gan Siwan," meddai Sara. "Mae 'na falans llwyr yn ei sgwennu hi. Mae'r dwys a'r doniol yma, ynghyd â straeon a chymeriadau cryf. Mae darllen un o'i sgriptiau hi fel camu i mewn i lyfr. Mae ei chyfarwyddiadau hi mor fanwl, mi wyt ti'n adnabod y cymeriadau yn dda o'r cychwyn cyntaf. Mae hi'n hynod o graff.
"Wy'n hoff iawn o Alys. Wy'n lico ei bod hi mor gryf. A bod 'na reswm y tu ôl i bopeth mae'n ei wneud. Dyw hi ddim yn berson drwg."
Ymysg yr actorion eraill a welir yn y gyfres mae Aneirin Hughes, William Thomas, Gillian Elisa, Shelley Rees, Ifan Huw Dafydd, Rhys ap William a Kate Jarman.
Mae'n rhaid i Sara hefyd gyd-actio â llygod mawr, a pharot sy'n rhegi.
"Doedd gen i ddim problem gyda'r llygod mawr, ond mi ges i fwy o drafferth efo'r parot,!" meddai Sara gyda gwên. "Roedd o'n bihafio'n dda gyda'r dynion yn y cast, ond mae'n amlwg nad yw e'n hoffi merched! Mae ei agwedd, felly, yn debyg i landlord Alys, Mr Toms, (Aneirin Hughes) sy'n datgan fod merched wedi 'sbaddu'r dref y mae'n rhan ohoni."
Cau
Cyfle cyntaf Catrin-Mai
Rydym eisoes wedi gweld cip arni yn y gyfres Gavin and Stacey, ond mae'r gyfres Alys yn rhoi cyfle i'r actores Catrin-Mai Huw chwarae ei rhan fawr gyntaf ar deledu. Hi sy'n chwarae rhan Ceri, sy'n byw yn y fflat gyferbyn ag un Alys, ac sy'n dod yn ffrind iddi.
Darllen mwy
Mae Catrin-Mai wedi gwerthfawrogi'r cyfle mae wedi ei gael, ac wedi mwynhau bob munud o'r cyfnod cynhyrchu.
"Dwi wedi mwynhau'r profiad yn fawr iawn," meddai'r actores 23 oed o Ruddlan. "Mi ro'n i'n neidio allan o'r gwely yn hapus am 5.30 bob bore gan wybod fod diwrnod arall gwych o'm 'mlaen i ar set Alys!
"Un o fy mreuddwydion i pan o'n i'n yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd oedd cael rhan yn un o gyfresi Siwan Jones. Pan o'n i'n astudio ar gyfer fy lefel A, roedd S4C yn ailddarlledu Tair Chwaer. Ro'n i'n arfer gwylio pob pennod bob nos ac yn gwirioni ar ei deialog hi. Pan ges i gynnig rhan Ceri yn Alys, mi ro'n i wedi cyffroi'n lân! Breuddwyd unrhyw actor ydy cael gweithio efo sgript dda. Mae'n gosod sialens i chi ac yn eich procio chi fel actor.
"Mae Ceri yn wahanol iawn i fi. Mae'n 18 oed, yn berson swil iawn ac yn dioddef o iselder ysbryd oherwydd iddi gael ei threisio, a rhoi genedigaeth i fab bach o ganlyniad i hynny.
"Mi ro'n i'n teimlo'n nerfus ar y dechrau, ond mi roedd pawb ar y set yn gwbl fodlon i mi holi cwestiynau a chael cyfle i ddysgu. Mi ro'n i mewn sefyllfa lle'r oedd pawb yn arbenigwyr yn eu meysydd eu hunain. Mi roedd yn braf cael cyfle i'w gwylio nhw a dysgu ganddyn nhw. Mi roedd chwarae Ceri yn bleser ac yn sialens."
Gan mai merch o Ruddlan yn Sir Ddinbych ydi Catrin-Mai, efallai mai'r sialens fwyaf i'w wynebu oedd meistroli acen rhywun o Orllewin Cymru.
"Ro'n i'n poeni y baswn i'n sefyll allan, y byddai'r gwylwyr yn sylwi ar yr acen, ond ro'n i'n ymwybodol y byddai'n rhaid i mi daclo acen ddeheuol rhywbryd yn ystod fy ngyrfa. Mater o wrando ac ymarfer ydy o. Dwi'n ffodus iawn fod y ddwy ffrind dwi'n rhannu tŷ â nhw yng Nghaerdydd yn dod o'r De, ac mae fy nghariad yn dod o'r Gorllewin. Mi roedd hynny'n help mawr.
"Yn ogystal â herio'r actorion a'r tîm cynhyrchu, mae Alys yn herio'r gwylwyr hefyd. Yn fy marn i, dyma gryfder gwaith Siwan. Dwi hefyd yn hoffi'r comedi du sy'n rhan o'r gyfres."
Cau