Cymry Rhyfel Cartref America
Cymry Rhyfel Cartref America Cymry Rhyfel Cartref America
CYMRY YN AMERICA

Erbyn adeg y Rhyfel Cartref, roedd yna lawer iawn o Gymry wedi ymgartrefi yn yr Unol Daleithiau. Er mai 'Cymry America' oeddynt bellach, nid 'Cymry Cymraeg', roedd eu Cymreictod yn rhan annatod o'u ffordd o fyw. Fe gadwodd y cymunedau Cymreig yn America eu gafael ar eu hiaith, eu diwylliant a'u hen arferion. Yn ôl y ffigyrau swyddogol, aeth tua 90,000 o Gymry dros y Môr Iwerydd rhwng 1820 a 1950 - yn 1850, roedd y cyfanswm yn agosach at 30,000, gyda'r rhan fwyaf yn byw yn y Gogledd Dwyrain, yn enwedig llefydd fel Pennsylvania, Efrog Newydd ac Ohio.

Wrth gwrs, i gymharu â grwpiau eraill, er enghraifft y Gwyddelod, bychan iawn oedd y niferoedd a adawodd Cymru yn ystod y 19fed ganrif. Roedd y rhai oedd yn gadael yn tueddu i fod y sawl a oedd gyda'r sgiliau a fyddai'n golygu gwaith iddynt yng ngogledd diwydiannol yr Unol Daleithiau. Roedd galw parhaol am ddynion a oedd â phrofiad o weithio'r pyllau glo, o gloddio chwareli neu o drin haearn. Roedd y breuddwyd Americanaidd yn rhywbeth oedd wedi cyrraedd clustiau pobl Cymru.

Wrth deithio ar draws yr Iwerydd, aeth yr ymfudwyr â thraddodiadau'r capeli a'r eisteddfod gyda hwy, a sefydlwyd mwy nag un papur newydd yno yn y Gymraeg. Y Drych oedd yr un mwyaf adnabyddus, ond roedd sawl un arall pwysig hefyd fel Y Cenhadwr Cymraeg, a gyhoeddwyd gan y Parchedig Ddoctor Robert Everett.