|
Y CYMRY A CHAETHWASIAETH
Erbyn canol y 19eg ganrif, nid oedd llawer o Gymry'n byw yn y De, ac yn gyffredinol, roedd hi'n nodweddiadol fod y Cymry yn erbyn caethwasiaeth. Wedi dweud hynny, yn hanesyddol roedd yna Cymry wedi bod yn berchnogion caethweision - fel Goronwy Owen a'i ddisgynyddion yn y De - ac y byddai ambell i unigolyn o Gymro yn ymladd dros y De yn ystod y rhyfel oedd i ddod - er enghraifft Henry Morton Stanley. Doedd pob un Cymro ddim yn Ddiddymwr (Abolitionist), a oedd eisiau cael gwared o gaethwasiaeth yn syth; ond roedd papurau fel Y Cenhadwr yn gryf yn erbyn caethwasiaeth o'r dechrau, ac yn aml yn argraffu erthyglau oedd yn dadlau yn erbyn yr arferiad. I raddau helaeth, roedd y teimlad yn erbyn caethwasiaeth yn dod o'r capeli yn y cymunedau Cymraeg, gyda'u pwyslais ar foesoldeb Cristnogol yn pregethu parch tuag at gyd-ddynion. Mor hwyr ag 1861, pan oedd llongau llawn caethweision i fod yn rhywbeth oedd yn perthyn i'r gorffennol, roedd gweinidog Cymreig o'r enw Ben Chidlaw wedi bod yn dyst i long o'r fath yn cludo ei lwyth anffodus: Gwelais y llong "Cora." Braidd y gallwn gredu fod 705 o blant, gwyr a gwragedd wedi cael eu gwthio rhwng ei decks, eu dwyn o'u gwlad, ac ar eu ffordd i gaethwasanaeth bythol. Ond gwir oedd. Roedd Chidlaw ei hun, er yn wreiddiol o'r Bala, yn weinidog yn Ohio, y dalaith ble ysgrifennodd Harriet Beecher Stowe ei llyfr pwerus yn condemnio caethwasiaeth, 'Uncle Tom's Cabin', neu 'Caban f'ewyrth Twm', fel gafodd ei gyfieithu i'r Gymraeg. Aeth Chidlaw ymlaen i fod yn Gaplan yn y fyddin, fel nifer o Gymry eraill. Un enghraifft arbennig o hyn oedd Erasmus Jones, a ddaeth yn gaplan ar gatrawd o filwyr du (milwyr oedd yn cyfrif fel dros 10% o holl fyddinoedd y Gogledd erbyn diwedd y rhyfel). Er i'r rhyfel ddechrau am fwy nag un rheswm, daeth cadarnhad o'r prif nod gan Lincoln yn Ionawr 1863, sef cael gwared o gaethwasiaeth unwaith ac am byth o'r Unol Daleithiau. Arweiniodd hyn, tua diwedd y rhyfel, i newid Cyfansoddiad yr Unol Daleithiau fel bod caethwasiaeth yn cael ei wahardd unwaith ac am byth. |
![]() ![]() |
||