Cymry Rhyfel Cartref America
Cymry Rhyfel Cartref America Cymry Rhyfel Cartref America
YN YSTOD Y RHYFEL

Fel y gwelir yn y rhaglen, roedd y Cymry ynghlwm â bron bob agwedd o'r rhyfel. Er nad oedd ganddynt gatrodau eu hunain, roedd yna dueddiad i lawer o Gymry ymuno â rhai gatrodau penodol, er enghraifft y 146th New York Infantry neu'r 56th Ohio Regiment. Yn y cyfnod, bu mwy nag un alwad am ddynion i fynd i ymladd; roedd amser penodedig o wasanaeth i bob milwr, gyda rhai yn ymladd am flynyddoedd tra bod eraill yn ymladd am naw mis yn unig. Rhaid cofio hefyd bod yna angen ar y pryd i gadw diwydiant yn y Gogledd i fynd gymaint â phosib, er mwyn ymdrech i'r rhyfel ac i sicrhau fod arian yn dal i ddod i mewn o allforion. Listiodd dynion fel y chwarelwyr John Williams a John Rowlands am gyfnod o naw mis yn unig. Ymunon nhw â'r 14th Regiment Vermont Volunteers, ac wedi profi'r ymladd ffyrnig ym mrwydr Gettysburg, fe ddychwelodd y ddau i chwareli Vermont.

Fel y gwelir yn y rhaglen, bu farw'r Cymry ochr yn ochr â dynion o genhedloedd eraill, yn Wyddelod, Almaenwyr a Phwyliaid ymysg eraill. Roedd rhai brwydrau penodol yn golygu colledion enbyd i rai gymunedau Cymreig, er enghraifft brwydr Lookout Mountain (gweler llinell amser 1863), a achosodd golledion trwm i gatrodau o Ohio, oedd gyda llawer o Gymry ynddynt.

Prif ffynonellau'r rhaglen yw'r wledd o lythyrau a dyddiaduron sydd wedi eu hysgrifennu o'r cyfnod, gyda llawer ohonynt yn cofnodi prif frwydrau y rhyfel, yn ogystal â bywyd dyddiol milwyr cyffredin. Roedd y llythyrau o frwydrau'r rhyfel yn aml iawn yn cael eu cyhoeddi yn y papurau Cymraeg, yn America ac hefyd yng Nghymru, ym mhapurau fel Yr Herald a'r Gwladgarwr.

Mae casgliadau o lythyrau i'w gweld mewn sawl lle yn yr Unol Daleithiau ac yng Nghymru. Mae un o'r casgliadau mwyaf yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, lle gellir gweld dros 80 o lythyrau gan filwr o'r enw John Griffiths Jones, a ddaeth o Benisarwaun yn wreiddiol. Gellir gweld y llythyrau hyn ar wefan Casglu'r Tlysau. Oherwydd fod y system bost yn gweithio'n dda iawn yn y cyfnod yma, er gwaetha'r rhyfel, byddai llythyrau yn cael eu gyrru adref i Ogledd Cymru yn disgrifio anturiaethau'r milwr hwn o'r 23rd Wisconsin Volunteer Infantry ac atebion yn cael eu gyrru nôl gan ei daid yn Llanrug. Pwysig iawn i'n darlun o'r rhyfel yw clywed hefyd am amodau byw y rhyfel. Ceir blas o sawl lythyr yn dystiolaeth i'r rhyfel yn y llinell amser.

Fodd bynnag, yn gyffredinol nid oedd traddodiad milwrol ymysg y Cymry oedd yn byw yn yr Unol Daleithiau. Roedd y cymunedau Cymreig yn rhoi mwy o bwyslais ar draddodiadau'r famwlad, sef y capeli, yr eisteddfodau a gweithio'n galed i edrych ar ôl y teulu. Efallai mai hyn sy'n egluro pam na ddaeth llawer o Gymry yn enwog fel swyddogion yn ystod y rhyfel. Un eithriad oedd William Powell, a gafodd ei ddyrchafu yn ystod y rhyfel o Gyrnol i fod yn is-Gadfridog.