|
AGWEDDI YN Y FAMWLAD
Wrth i'r rhyfel barhau, teimlodd Prydain effaith gref ar yr economi, yn enwedig yn llefydd fel Swydd Caerhirfryn. Erbyn canol 1862, roedd melinau'r ardal yn rhedeg allan o gotwm ac yn gorfod cau. Ar y dechrau agwedd y llywodraeth Brydeinig oedd i aros i weld beth fyddai'n digwydd. Bu pwyso cryf ar y wasg ac ar lywodraeth Prydain gan Daleithiau Cydffederal y De a chan y Gogledd i geisio sicrhau fod eu safbwynt yn dod drosodd. Roedd y De, mwy nag unrhywbeth arall, angen cydnabyddiaeth ryngwladol er mwyn cael ei weld fel gwlad annibynnol. Does dim amheuaeth fod y Taleithiau Cydffederal yn boblogaidd yn rhai llefydd ym Mhrydain, a gyda rhai pobl o bob dosbarth - yn Lerpwl er enghraifft, adeiladwyd llongau i'r De. Ond mae'r darlun yn un cymysg: tra bod rhai haneswyr yn honni fod dadleuon y De yn boblogaidd ymysg y dosbarth gweithiol, yn enwedig yn yr ardaloedd a oedd yn ddibynnol ar gotwm, mae eraill yn dweud fod y dosbarthiadau yma ym Mhrydain, yn gyffredinol, tu cefn i'r Gogledd. Gan gofio fod syniadau radical yn gryf ymysg llawer o werinoedd Ewrop ar y pryd, mae hyn yn gwneud synnwyr - roedd yr Undeb yn golygu rhyw obaith o ryddid, nid yn unig i'r caethweision ond drwy symboleiddio fersiwn cryf o'r freuddwyd Americanaidd. Rhaid cofio fod y rhan fwyaf o drigolion yr Unol Daleithiau yn y cyfnod yn fewnfudwyr cymharol ddiweddar, felly roedd y rhyfel bron fel un rhwng cefndryd o bron bob cornel o boblogaeth Ewrop. Fodd bynnag, erbyn i Lincoln gyhoeddi fod y rhyfel yn mynd i ryddhau'r caethweision beth bynnag a ddaw, roedd llywodraeth Palmerston, er yn niwtral yn swyddogol, yn gwybod nad oedd hi'n bosib rhoi mwy o gydnabyddiaeth i'r Taleithiau Cydffederal. Oherwydd y llythyron oedd yn cael eu gyrru o'r brwydrau, a'r ffaith fod yna ddigon o bobl gyda theuluoedd allan yn yr Unol Daleithiau, roedd y Rhyfel yn destun trafod adref hefyd. Utica oedd prif ddinas y wasg Gymraeg yn America, gyda dros hanner dwsin o bapurau Cymraeg misol neu wythnosol yn y cyfnod hwn, yn cynnwys Y Cenhadwr Americanaidd, Y Cyfaill o'r Hen Wlad, a'r Drych, a byddai'r papurau newydd yma yn cael eu danfon yn ôl i Gymru'n rheolaidd. Roedd y digwyddiadau dros y môr yn destun i ambell i gystadleuaeth farddonol mewn eisteddfodau, ac yn amlwg yn bwnc trafod. Nid oedd Cymru'n annhebyg i weddill Prydain yn y cyfnod, gyda rhai tu ôl i'r Gogledd a rhai yn cefnogi'r De. Serch hyn, roedd ambell un, fel William Williams perchennog tafarn y Carw Coch yn Aberdâr, yn gadarn o blaid y Gogledd. Roedd yna fap ar wal y dafarn gyda phinnau'n dangos yr holl symudiadau milwrol, a byddai'r faner Americanaidd yn cael ei godi bob tro roedd buddugoliaeth i fyddin Lincoln. |
![]() ![]() |
||