Cymry Rhyfel Cartref America
Cymry Rhyfel Cartref America Cymry Rhyfel Cartref America
LLINELL AMSER Y RHYFEL

Ceir disgrifiad yma o brif ddigwyddiadau'r rhyfel ynghyd â darnau o ddyddiaduron, llythyron, barddoniaeth ac erthyglau y cyfnod.

Cliciwch ar yr eicon yma i ddarllen cofnod dyddiadur o'r dyddiad penodol

1860      1861      1862      1863      1864      1865


1862
Dyddiad Digwyddiad
11 - 16 Chwefror

Brwydr Fort Donelson: Llwyddiant i fyddin y Gogledd o dan Ulysses S. Grant yn golygu bod hi'n anhebygol fydd Kentucky yn gallu ymuno a'r Taleithiau Cydffederal
6 Ebrill

Brwydr Shiloh: Milwyr Taleithiau Cydffederal y De yn ymosod yn sydyn ar filwyr y Gogledd o dan y cadfridog Ulysses S. Grant. 26,000 yn cael eu lladd, neu eu hanafu: mwy nag ym mhob rhyfel arall Americanaidd gyda'i gilydd
25 Ebrill - 1 Mai New Orleans, porthladd mwyaf y De, yn cael ei gipio'n ôl gan longau'r Gogledd, o dan arweiniad David Farragut
25 Mehefin - 1 Gorffennaf

Brwydr y Saith Diwrnod: Lee yn ymosod ar fyddinoedd y Gogledd wrth ymyl Richmond a rheini'n gorfod tynnu nôl i Washington. Methiant McClellan
9 Medi Brwydr Antietam: Un o frwydron mwyaf y rhyfel. Byddinoedd Lee a McClellan yn ymladd eto gyda 25,000 yn cael eu lladd, anafu neu'n diflannu ar y diwrnod cyntaf
8 Hydref

Brwydr Perryville: Gyda'r Undeb yn ennill, ar ôl i fyddin y Taleithiau Cydffederal o dan Braxton Bragg ymosod ar Kentucky. Hwn oedd un o'r brwydrau cyntaf i lawer o Gymry Ohio gymeryd rhan. Tua 6,000 yn cael eu lladd neu'u clwyfo
7 Tachwedd Lincoln yn penodi Ambrose E. Burnside fel arweinydd yr holl fyddinoedd, wedi iddo flino ar ddulliau araf McClellan
13 Rhagfyr

Brwydr Fredericksburg: Cadfridog Burnside yn colli brwydr yn erbyn y De wrth iddo ymosod 14 gwaith ar Marie's Heights, gan golli 12,653 o ddynion
29 Rhagfyr

Brwydr Murfreesboro: Wrth i'r Gogledd fynd ar ôl byddin newydd Braxton Bragg. Brwydro yn ôl ac ymlaen am ddiwrnod, ond y Gogledd yn ennill



Ulysses S. Grant



Ambrose E. Burnside