Cymry Rhyfel Cartref America
Cymry Rhyfel Cartref America Cymry Rhyfel Cartref America
LLINELL AMSER Y RHYFEL

Ceir disgrifiad yma o brif ddigwyddiadau'r rhyfel ynghyd â darnau o ddyddiaduron, llythyron, barddoniaeth ac erthyglau y cyfnod.

Cliciwch ar yr eicon yma i ddarllen cofnod dyddiadur o'r dyddiad penodol

1860      1861      1862      1863      1864      1865


1863
Dyddiad Digwyddiad
1 Ionawr

Lincoln yn cyhoeddi mai bwriad y rhyfel bellach ydi rhyddhau'r caethweision duon
25 Ionawr Lincoln yn penodi Joseph Hooker yn lle Burnside
Ebrill - Gorffennaf

Brwydr Vicksburg: Gwarachae gan y Cadfridog Grant. Wedi ennill, mae Taleithiau Cydffederal y De wedi ei rannu'n ddau ar hyd y Mississippi
1 - 4 Mai Brwydr Chancellorsville: Byddin Hooker yn cael ei churo gan dactegau Lee, er bod ei fyddin yn llai. "Stonewall" Jackson yn cael ei anafu'n ddifrifol. Y Gogledd yn colli 17,000 allan o fyddin o 130,000, tra bod y De yn colli 13,000 allan o 60,000
10 Mai "Stonewall" Jackson yn marw - colled fawr i'r De. "Yr wyf wedi colli fy mraich dde" meddai Lee
3 Mehefin Lee yn ail-ymosod ar y Gogledd, gan anelu am Pennsylvania
1 - 3 Gorffennaf Brwydr Gettysburg: 150,000 o filwyr ar y maes. Diwedd her Lee i'r Gogledd, a methiant. Pickett's charge. Dechrau'r diwedd i'r De
4 Gorffennaf

Gwarchae Vicksburg yn dod i ben ar ôl 6 wythnos. Cannoedd o filwyr Cymreig wedi cymryd rhan yn y gwarchae. Yr Undeb yn rheoli'r Mississippi o hyn ymlaen, gan rannu Taleithiau Cydffederal y De'n ddau
13 - 16 Gorffennaf Terfysgoedd yn erbyn y drafft yn Efrog Newydd - mewnfudwyr gwyn tlawd yn ymosod ar bobl duon - 120 yn cael eu lladd
19 - 20 Medi Byddin y De yn ennill brwydr o dan y Cadfridog Braxton Bragg yn Chickamauga sy'n golygu fod byddin cyfan o'r Gogledd wedi ei gaethiwo yn Chattanooga
16 Hydref Y cadfridog Grant yn cael ei benodi gan Lincoln i arwain holl fyddinoedd y gorllewin
19 Tachwedd Araith Lincoln yn Gettysburg
23 - 24 Tachwedd Gwarchae lluoedd y De o fyddin y Gogledd yn Chattanooga yn dod i ben
24 Tachwedd

Brwydr Lookout Mountain - Brwydr Uwchben y Cymylau: Gyda 10,000 o filwyr y Gogledd yn erbyn 1000 o filwyr y De ar ben mynydd Lookout yn Tennessee



Joseph Hooker



Thomas 'Stonewall' Jackson