Cymry Rhyfel Cartref America
Cymry Rhyfel Cartref America Cymry Rhyfel Cartref America
LLINELL AMSER Y RHYFEL

Ceir disgrifiad yma o brif ddigwyddiadau'r rhyfel ynghyd â darnau o ddyddiaduron, llythyron, barddoniaeth ac erthyglau y cyfnod.

Cliciwch ar yr eicon yma i ddarllen cofnod dyddiadur o'r dyddiad penodol

1860      1861      1862      1863      1864      1865


1864
Dyddiad Digwyddiad
9 Mawrth Grant yn cael ei wneud yn arweinydd holl fyddin y Gogledd, gyda William T. Sherman yn edrych ar ôl byddin y Gorllewin
4 Mai

Ymgais newydd gan y Gogledd i feddiannu cadarnleoedd y De. Grant yn Virginia yn mynd am Richmond - byddin Lee yn ei ddisgwyl. Tair brwydr mawr, sef Brwydr yr Anialwch (5 - 6 Mai) Spotsylvania (8 - 12 Mai) a Cold Harbour (1 - 3 Mehefin). 7,000 o filwyr yr Undeb yn cael eu lladd yn yr 20 munud cyntaf yn Cold Harbour. Nifer o Gymry talaith Efrog Newydd yn marw'n mrwydr yr Anialwch - digwyddodd brwydr yn yr un fan flwyddyn ynghynt, ac roedd penglogau a sgerbydau ar y llawr. Erbyn Brwydr Cold Harbour, dros 65,000 o filwyr wedi eu lladd, ond Ulyssess S. Grant ddim yn fodlon troi'n ôl. Roedd llawer o frwydro mewn ffosydd, yn debyg i'r Rhyfel Byd Cyntaf

Byddin Sherman yn mynd yn am Atlanta, Joseph E. Johnston yn ei ddisgwyl
15 Mehefin Brwydr Petersburg: Gwarchae am 9 mis wrth i fyddin Grant amgylchynu Lee
20 Gorffennaf Sherman yn dechrau ymosod ar fyddinoedd John B. Hood sy'n amddiffyn Atlanta
29 Awst Y Cadfridog McClellan yn cael ei gynnig fel ymgeisydd y Democratiaid yn etholiadau'r Unol daleithiau
2 Medi

Sherman yn cymeryd Atlanta, ac ar ôl dinistrio'r rheilffyrdd yno, yn dechrau gwneud ei ffordd tua'r môr, gan fyw oddi ar y tir ar y ffordd
8 Tachwedd

Lincoln yn cael ei ail-ethol yn Arlywydd yr Unol Daleithiau
15 - 16 Rhagfyr Byddin Johnston yn cael ei ddifa yn Nashville, yn cynnwys gan filwyr duon o dan y Cadfridog George H. Thomas



William T. Sherman



Joseph E. Johnston