Cymry Rhyfel Cartref America
Cymry Rhyfel Cartref America Cymry Rhyfel Cartref America
LLINELL AMSER Y RHYFEL

Ceir disgrifiad yma o brif ddigwyddiadau'r rhyfel ynghyd â darnau o ddyddiaduron, llythyron, barddoniaeth ac erthyglau y cyfnod.

Cliciwch ar yr eicon yma i ddarllen cofnod dyddiadur o'r dyddiad penodol

1860      1861      1862      1863      1864      1865


1865
Dyddiad Digwyddiad
31 Ionawr Cyngres yr Unol Daleithiau'n pasio'r 13th Amendment sy'n gwahardd caethwasiaeth
3 Chwefror Ymgais i gael heddwch rhwng Lincoln a dirprwy arlywydd y De Alexander Stephens, ond methiant bu'r cyfarfod. Erbyn hyn, does gan y De dim ond fyddin Lee yn Petersburg a Johnston yng Ngogledd Carolina
4 Mawrth Lincoln yn cael ei gadarnhau'n Arlywydd
25 Mawrth Ymgais olaf Lee i ymosod ar ganolfan Grant - methodd ar ôl pedair awr
2 Ebrill Petersburg yn syrthio
3 Ebrill Richmond, pencadlys y de yn syrthio, baner yr Unol Daleithiau yn codi yno unwaith eto
9 Ebrill Y Cadfridog Lee yn rhoi ei arfau i lawr yn Appomattox
14 Ebrill Lincoln yn cael ei saethu yn Ford's Theatre, Washington, gan John Wilkes Booth
15 Ebrill Lincoln yn marw, ei ddirprwy Andrew Johnson yn cymeryd ei le
18 Ebrill Byddin y Cadfridog Johnston yn rhoi eu harfau i lawr - y rhyfel wedi gorffen
4 Mai Abraham Lincoln yn cael ei gladdu yn Springfield, Illinois



Alexander Stephens



John Wilkes Booth