Cymry Rhyfel Cartref America
Cymry Rhyfel Cartref America Cymry Rhyfel Cartref America
CYD-DESTUN Y RHYFEL

I ddeall pam ddechreuodd Rhyfel Cartref America mae'n rhaid mynd yn ôl yn bell cyn 1861 i gael hyd i'r gwreiddiau. Does dim dwywaith amdani mai caethwasiaeth oedd un o'r prif resymau am y rhyfel, ond roedd nifer o ffactorau eraill wedi helpu creu'r sefyllfa pan oedd rhyfel yn anochel, ar ôl blynyddoedd o densiwn gwleidyddol a thrais.

Yn y bôn, roedd gwrthdaro rhwng dau ranbarth daearyddol: y Gogledd diwydiannol, Whig, radical, ble roedd busnes a diwydiant yn ffynnu, a'r De amaethyddol, Democrat, ceidwadol, oedd yn ddrwgdybus o bwer ffederal llywodraeth; gwrthdaro felly rhwng dau ddiwylliant tra gwahanol, ac efallai'n bwysicach, dwy ffordd hollol wahanol o ddychmygu dyfodol yr Unol Daleithiau.

Rhaid cofio mai'r Rhyfel Cartref oedd, i raddau helaeth, yn gyfrifol am roi genedigaeth i'r Unol Daleithiau yr ydym ni'n gyfarwydd â fo heddiw. Roedd y wlad yn un ifanc iawn ar y pryd, ac yn dal i ehangu i'r gorllewin a'r de, ffactor pwysig arall oedd yn effeithio'r cyd-bwysedd rhwng y ddau diwylliant yma.

O ddechrau'r 1850au ymlaen, gellir dadlau fod gwrthdaro gwaedlyd o ryw fath ar y ffordd yn barod. Gyda'r sylfeini yn eu lle, bu'r deng mlynedd yn arwain at ddechreuad y trais ychydig fel sbring yn cael ei dynhau a'i dynhau, yn barod i ffrwydro mewn brwydr.

Y PRIF FFACTORAU

Roedd canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyfnod cyffrous iawn yn hanes yr Unol Daleithiau. Gyda'r ras am aur i Galiffornia yn 1849 a thaleithiau newydd y Gorllewin yn cael eu ffurfio, yn enwedig ar ôl y rhyfel gyda Mecsico, roedd y wlad yn mynd trwy newidiadau enfawr. Roedd natur y boblogaeth yn newid, yn enwedig oherwydd mewnfudo o Ewrop oedd yn digwydd ar raddfa llawer mwy nag o'r blaen. Gyda'r newidiadau yma daeth tensiynau oedd eisoes yn bodoli yn system wleidyddol y wlad i'r amlwg.

Ceir edrychiad yma ar rai o'r prif ffactorau, digwyddiadau a chymeriadau a arweiniodd at ddechrau'r rhyfel yn 1861: