|
CAETHWASIAETH
Ar drothwy'r rhyfel, roedd miliynau o gaethweision duon yn nhaleithiau'r De, hyd at 80% o'r boblogaeth mewn rhai ardaloedd, ac er bod yr arferiad o ddwyn caethweision o Affrica wedi ei wahardd ers 1807 yn swyddogol, y gwirionedd oedd fod hyn yn dal i ddigwydd, fel y tystiodd Cymry fel y Parchedig Ben Chidlaw. Caethwasiaeth, i raddau helaeth, oedd yr un peth mwyaf nodweddiadol am ddiwylliant y De - roedd yn rhan bwysig o nid yn unig yr economi amaethyddol, oedd yn dibynnu ar gotwm a thybaco fel y prif gnydau, ond yn rhan annatod o feddylfryd a strwythur y gymdeithas yno. Roedd y cotwm yn rhan fawr o allforion y taleithiau deheuol, gyda llawer ohono'n mynd i felinau Swydd Gaerhirfryn ym Mhrydain. Yr hyn a welwyd yn hanner cyntaf y 19eg ganrif, ac yn fwy amlwg ar ôl 1850, oedd lleisiau Gogleddol yn codi'n gryf yn erbyn caethwasiaeth. Digwyddodd hyn ar bob lefel - yn swyddogol, o fewn Cyngres, y llysoedd lleol a chenedlaethol - a chafodd ddylanwad pwysig ar wleidyddiaeth y cyfnod. Hefyd, cododd y lefel o drais rhwng pobl oedd yn gweld hwn fel cwestiwn moesol pwysicaf y dydd, sef y Diddymwyr, a'r rhai oedd nid yn unig am gadw'r status quo, ond ehangu'r arfer o gaethwasiaeth i mewn i diroedd a thaleithiau newydd y Gorllewin os yn bosib. Dau ddigwyddiad nodweddiadol o'r tensiwn yma mewn degawd cythryblus iawn oedd ymosodiadau John Brown, ac achos Dred Scott, cyn gaethwas oedd yn ceisio byw yn rhydd yn nhaleithiau'r Gogledd. Dechreuodd John Brown ei yrfa waedlyd wrth iddo fo a'i feibion ymosod ar bobl oedd o blaid caethwasiaeth yn Kansas, un o'r taleithiau newydd oedd dal heb benderfynu os oedd o blaid neu yn erbyn yr arferiad. Daeth yr ymosodiadau ar ôl i lawer o ddrwgdeimlad a thrais gael ei anelu at bobl oedd yn erbyn caethwasiaeth yn y dalaith, ond erbyn diwedd 1856 roedd dros 200 wedi marw o'r ddwy ochr a gwerth $2,000,000 o ddifrod. Erbyn 1859, ac ar ôl blynyddoedd o ymladd yn erbyn caethwasiaeth, ymosododd John Brown ar stordy arfau ffederal Harper's Ferry, gan obeithio dechrau gwrthryfel drwy arfogi'r caethweision. Methiant oedd y fenter, a chafodd Brown ei ddal a'i ddienyddio gan awdurdodau Virginia - ond trwy wneud hyn, crëwyd merthyr i achos gwrth-gaethwasiaeth, a dechreuwyd panig yn nhaleithiau'r De. " Merthyr oedd ym mhorth rhyddid" oedd llinell olaf englyn gan un o'r Cymry America o'r cyfnod, Eos Glan Twrch, bardd oedd yn byw yn Efrog Newydd. Roedd achos Dred Scott hefyd yn nodweddiadol o'r sefyllfa gymhleth oedd yn bodoli rhwng y Gogledd a'r De dros statws caethweision. Roedd Dred Scott wedi byw yn y Gogledd am flynyddoedd, ac wedi prynu ei hun allan o gaethwasiaeth ar ôl i'w feistr farw. Dywedodd cwrt lleol fod ganddo'r hawl i wneud hyn, ond dyma'r Supreme Court, o dan arweinyddiaeth geidwadol Deheuwyr, yn dweud ei fod yn dal yn gaethwas, am ei fod heb ei eni'n rhydd na chwaith wedi ei ddinasyddio: dyfarniad oedd yn mynd yn erbyn ewyllys rhan fawr o'r Cyngres ar y pryd. Roedd statws cyn-gaethweision oedd yn byw yn y Gogledd, llawer wedi dianc o'r De, wedi bod yn bwnc llosg ers blynyddoedd, gyda'r De wedi mynnu cyfreithiau oedd yn rhoi'r hawl iddynt gipio unrhyw cyn-gaethwas yn ôl. Roedd hi'n amlwg na fyddai'r broblem yn mynd i ffwrdd heb atebion gwleidyddol a fyddai'n golygu tynnu diwylliant un rhan o'r Unol Daleithiau'n ddarnau. Ffactor arall a wnaeth dim daioni i achos caethwasiaeth oedd cyhoeddiad y nofel "Caban f'ewythr Twm", gan Harriet Beecher Stowe, yng ngwanwyn 1852. Cyhoeddwyd o leiaf dau fersiwn yn y Gymraeg hefyd, ac aeth y llyfr yn ei flaen i werthu ledled y byd. Roedd portread yr awdures o gyflwr y caethwas du a chreulondeb ei feistr o'r de, yn ogystal â stori ferch yn ceisio dianc o'r de i sicrhau bod ei phlentyn yn cael ei eni'n rhydd yn un bwerus iawn. Er mai ffuglen oedd hon, roedd yna neges wleidyddol glir hefyd, a mwy o bwer eto i ddadleuon y Diddymwyr ar draul rhai'r De. |
![]() ![]() |
||