|
PWYSAU GWLEIDYDDOL MEWNFUDO I'R UNOL DALEITHIAU
Cyn 1840, roedd tua tri chwarter o'r mewnfudwyr i'r Unol Daleithiau yn dod o Brydain ac yn Brotestaniaid, gan cynnwys y Cymry wrth gwrs. Dros yr ugain mlynedd nesaf, fodd bynnag, tyfodd y mewnfudo i fod yn chwe gwaith yn fwy na chynt, gyda dau allan o bob tri yn dod o unai Iwerddon neu'r Almaen, a'r mwyafrif yn Gatholig. Roedd dros hanner y swm a gyrhaeddodd o Iwerddon heb sgiliau, tra aeth llawer o'r Almaenwyr ymlaen i fod yn ffermwyr. Effaith fawr y mewnfudo yma oedd ei gyfraniad amlwg at broblemau gwleidyddol y cyfnod, yn enwedig yn y Gogledd, lle cyrhaeddodd y rhan fwyaf o'r mewnfudwyr. Gyda'u tlodi a'u crefydd, roedd y Gwyddelod ddim am gael llawer o groeso, ac yn ystod y 30au a'r 40au bu terfysgoedd ethnig a gwrth-Gatholig mewn llawer man yn y Gogledd-Ddwyrain o'r wlad - daeth hyn yn fwy amlwg yn y 50au, wrth i'r syniadau Nativist, gwrth-mewnfudwyr, gymeryd gafael, a chael ei adlewyrchu'n wleidyddol ymysg grwp a oedd yn galw eu hunain y Know-Nothings. Roedd llawer o'r cefnogwyr brwdfrydig y mudiad yma yn wreiddiol wedi mewnfudo o Ogledd Iwerddon neu'r Alban eu hunain, a'u casineb yn rhan o hen frwydrau eu cyn-deidiau, miloedd o filltiroedd i ffwrdd ar gyfandir arall. Erbyn dechrau'r 50au, felly, roedd yna elfennau o'r mudiad gwrth-mewnfudwr wedi cymeryd gafael ar wleidyddiaeth y Whigs, oedd ym mhob ffordd arall yn barti gwleidyddol rhyddfrydol. Golygodd hyn fod y Democrats, parti naturiol y De, yn cael cefnogaeth y mewnfudwyr tlawd yn y Gogledd. Erbyn diwedd y 50au, cyfrannodd y sefyllfa yma at ddiwedd y Whigiaid. Cafodd y parti ei rwygo'n ddau, i'r Know-Nothings ar y naill llaw ac aden wleidyddol newydd, mwy radical, sef y Gweriniaethwyr, ar y llall. Yn y diwedd, holltodd bwer y Know-Nothings hefyd, wedi iddynt fod tu cefn i lawer o drais gwaedlyd yn enw cadw'r Unol Daleithiau'n 'bur'. Arweinydd y Gweriniaethwyr - y Republicans - oedd Abraham Lincoln. Ar ddechrau'r 60au roedd yntau bellach yn barod i gipio'r arlywyddiaeth a phwer gwleidyddol yr Unol Daleithiau yn enw ei barti gwleidyddol newydd. Roedd y rhan fwyaf o'r Gweriniaethwyr yn gadarn y tu-ôl i'w safbwynt yntau, yn erbyn caethwasiaeth y De. |
![]() ![]() |
||