Cymry Rhyfel Cartref America
Cymry Rhyfel Cartref America Cymry Rhyfel Cartref America
TALEITHIAU'R DE YN TORRI FFWRDD

Ar ôl etholiad Abraham Lincoln yn Nhachwedd 1860, roedd hi bron yn anochel y byddai taleithiau'r de yn ceisio ymwahanu o'r Unol Daleithiau, oherwydd nid oedd yn bosib iddynt fod o fewn yr undeb oedd bellach am wahardd caethwasiaeth yn y tiroedd newydd - a mwy na thebyg am ddechrau ddadwneud caethwasiaeth yn y De hefyd.

"Ni fedrai'r llywodraeth barhau gyda hanner caethwasiaeth a hanner rhyddid" oedd geiriau Lincoln wedi bod cyn ei ethol. De Carolina oedd y dalaith gyntaf i adael yr Undeb ar yr 20fed o Ragfyr; erbyn Chwefror 1af, 1861, roedd chwech arall wedi dilyn, a chyhoeddwyd cyfansoddiad newydd y Taleithiau Cydffederal ar y 7fed.

Cafodd Jefferson Davis ei gyhoeddi'n Arlywydd erbyn y 18fed o Chwefror. Roedd y wlad yn bell ar hyd y ffordd i ryfel.