|
DOLENNI DIDDOROL
Pwrpas y tudalen yma yw i'ch galluogi i ddarllen a darganfod mwy, nid yn unig am y Rhyfel Cartref, ond am gysylltiadau Cymru gyda'r Unol Daleithiau yn y cyfnod. Ceir llyfryddiaeth fer a rhestr o wefannau safonol. LLYFRYDDIAETH Mae yna lyfrau di-ri wedi eu hysgrifennu am y Rhyfel, ond mae'r llyfr sydd yn mynd gyda'r gyfres hon gan Jerry Hunter, Llwch Cenhedloedd - Y Cymry a Rhyfel Cartref America (Gwasg Carreg Gwalch), yn lyfr arbennig os ydych am ddarganfod mwy am y gymdeithas Gymraeg oedd yn bodoli yn yr Unol Daleithiau ar y pryd, a faint o effaith gafodd y rhyfel ar y gymuned yma. Yn nhermau hanes cyffredinol, yr un llyfr sy'n rhoi portread cryno, llawn o'r gwrthdaro yw Battle Cry of Freedom (Penguin) gan James M. Mcpherson - llyfr deallus a chlir a enillodd y wobr Pullitzer yn 1989 ac un sydd yn rhoi holl banorama hanes yr Unol Daleithiau cyn ac yn ystod y rhyfel. Dau lyfr diddorol arall sy'n trafod pwnc y Cymry yn yr Unol Daleithiau yw: Welsh Reflections: Y Drych and America 1851-2001 gan Aled Jones a Bill Jones (Gwasg Gomer), a New Lives in the Valley am y Cymry aeth i chwareli Vermont, gan Gwilym R. Roberts (Somersworth). Gallwch ddod o hyd i ddeunydd defnyddiol yn y Llyfrgell Genedlaethol, gan cynnwys rhai o'r llythyron gwreiddiol a hen gopïau o bapurau newydd y cyfnod. Gallwch hefyd ddarllen yno hen lyfr o hanes y Cymry a gafodd ei ysgrifennu'n 1872 gan y Parchedig R.D. Thomas o'r enw Hanes Cymry'n America. Mae hwn yn ddiddorol iawn ac yn rhoi darlun o unigolion pwysig a ymfudodd i America, gan ddechrau gyda Madog! Ar nodyn ysgafnach, mae yna gyfres o nofelau ditectif gan awdur Americanaidd o'r enw Owen Parry, sy'n dilyn helyntion Abel Jones, ditectif Cymreig sy'n datrys dirgelion yn ystod y Rhyfel Cartref - mae yna bedair nofel, gyda Faded Coat of Blue a Call Each River Jordan (Avon Books) ymysg y rhai mwyaf poblogaidd. GWEFANNAU Eto, mae'r rhestr o wefannau sy'n ymwneud â'r Rhyfel yn hir iawn, am ei fod mor bwysig yn hanes ffurfio'r Unol Daleithiau. Gellir darganfod hanesion bron i bob gatrawd a gymerodd rhan ar y we, ond fel pwynt dechreuol i unrhyw ymchwil, mae'r canlynol yn werth cael golwg arnynt: I weld rhai o'r llythyrau a gafodd eu hysgrifennu gan y milwyr, yn ogystal â dogfennau eraill sy'n ymwneud â'r rhyfel, ewch i wefan Casglu'r Tlysau - prosiect i hel deunydd diwyllianol dioddorol am Gymru. Y Smithsonian Institute - gwefan gyda holl hanes yr Unol Daleithiau. Mae'r Institute yn un o amgueddfeydd pwysicaf y wlad, ac yn ganolfan ymchwil pwysig byd-eang. Ceir llawer iawn o wybodaeth ar bob agwedd o'r rhyfel yn AmericanCivilWar.com hefyd, gyda llawer o luniau, dogfennau ac hanesion diddorol. Hefyd, yn debyg iawn ond wedi ei ddylunio'n daclusach mae www.civilwar.com, a www.civil-war.net, sydd gyda lluniau da iawn o'r Rhyfel. Canolfan arall safonol yw'r American Civil War Center, sy'n cynnwys hefyd manylion ar sut i ddechrau hel achau, os ydych yn meddwl fod yna rywun yn perthyn i chi wedi ymladd yn y rhyfel. Ceir mwy o fanylion am filwyr o www.civilwardata.com, ond mae'n rhaid talu i gael y manylion. Prosiect diddorol iawn sy'n astudio effaith y Rhyfel ar ddau ddyffryn - un y Gogledd a'r llall yn y De - o adeg John Brown i ar ôl y rhyfel yw prosiect The Valley of the Shadow sydd i'w weld yn The Valley of the Shadow. I gael mwy am yr ongl Brydeinig, gan fod yna sawl cymdeithas yn y DU sydd gyda diddordeb mawr yn y cyfnod, ewch at www.americancivilwar.org.uk. |
![]() |
||